Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Datganiad Newyddion 6/7/23
Adnewyddu a Gobaith yng Nghaerfyrddin : Y Gymanfa Gyffredinol 2023
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC) yn cynnal ei Chymanfa Gyffredinol flynyddol yng Nghaerfyrddin, o ddydd Llun 10 Gorffennaf tan ddydd Mercher 12 Gorffennaf.
Er gwaethaf cefndir o ddirywiad eglwysig serth o fewn enwadau hanesyddol Cymru, mae EBC yn galonogol am y dyfodol.
Dywedodd y Parch, Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol EBC:
‘Bydd y digwyddiad eleni yn cael ei ddominyddu gan ymdeimlad o adnewyddiad. Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i Gristnogaeth yng Nghymru, ond mae EBC yn buddsoddi yn y dyfodol yn ogystal â dathlu ein gorffennol.’
Yn ogystal â derbyn adroddiadau gan adrannau’r eglwys, bydd y Gymanfa Gyffredinol eleni yn canolbwyntio ar chwe mater allweddol:
• Cyfathrebu: rhannu straeon am obaith ac adnewyddiad gydag eglwysi, y cyhoedd ehangach a’r cyfryngau.
• Perthynas EBC ag Eglwys Bresbyteraidd India. Bydd cynrychiolwyr o Mizoram yn bresennol yn y gynhadledd.
• Arloesol: Mae pedair ar ddeg o swyddi cymunedol wedi’u creu ledled Cymru, yn mynegi cariad, gobaith a chyfiawnder Cristnogol yn ymarferol mewn ardaloedd gwledig a threfol. Bydd y swyddi newydd hyn yn rhoi hwb i fentrau newydd ledled y wlad, gan gysylltu eglwysi lleol â’u cymunedau.
• Dyfodol ein gwaith Plant ac Ieuenctid: Bydd hyn yn cynnwys diweddariadau am Goleg y Bala.
• Adeiladau: harneisio grym y cannoedd o gapeli ac adeiladau EBC i gyfleu neges Iesu i’r genhedlaeth hon. Bydd hyn yn cynnwys diweddariad ar Goleg Trefeca.
• Aelodaeth: cefnogi eglwysi lleol lle mae dirywiad, a pharatoi ar gyfer twf.
Bydd nifer o ddarlithoedd yn cynnwys siaradwyr gwadd yn cael eu cynnal yn ystod y Gymanfa Gyffredinol.
• Dydd Llun: Bydd y Parch Ddr Robert Cunville o Eglwys Bresbyteraidd India yn siarad am yr angen am genhadaeth, a sut mae Cristnogaeth yn ffynnu yn India ac Asia.
• Dydd Mawrth: Y Parch Huw Powell Davies fydd yn traddodi darlith Davies, gan gynnig ei sylwadau ar weithgarwch cenhadol Cymreig yn India.
• Dydd Mercher: Bydd y Parch Phillip Eveson yn siarad ar Gyffes Ffydd 1823 – clasur anghofiedig’. Dathlu 200 mlynedd o Gyffes Ffydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Dywedodd y Parch Nan Powell Davies:
‘Rydym yn realistig o’r heriau sydd o’n blaenau, ond rydym yn obeithiol iawn. Mae ein cyffes ffydd wedi siapio ein bywyd a’n hymarfer ers 200 mlynedd a chredwn fod yr Ysbryd Glân yn ein hadnewyddu â doniau llawenydd a dychymyg wrth i ni fynd ar daith i ddyfodol anghyfarwydd.’
——-Diwedd——
Nodiadau i olygyddion: Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw un o enwadau Cristnogol mwyaf Cymru, gyda thua 14,000 o aelodau a thua 540 o eglwysi .
Gwybodaeth cyfryngau: Gethin Russell-Jones, 07378 309268