Adnoddau Dementia
Trysori ffydd a bywyd y rhai sy’n byw â dementia i’w galluogi i barhau i addoli a chynnal eu ffydd yn Iesu.
‘Adnabod cariad Iesu a grym yr Ysbryd Glân yw fy help mwyaf i fyw gyda dementia.’ – Dementia from the Inside, Dr Jennifer Bute
Mae’n siŵr bod y mwyafrif ohonon ni yn adnabod rhywun o fewn ein cylch teulu, ffrindiau a chymuned sy’n byw gyda dementia, felly bydd yr adnoddau newydd yma o werth i bob un ohonon ni ac i’n cymdeithas Gristnogol leol.
Ein gweddi yw y bydd yr Arglwydd yn bendithio ein gweledigaeth, i drysori ffydd a bywyd y rhai sy’n byw â dementia dros y blynyddoedd nesaf – Christine Hodgins – Cadeirydd Is-bwyllgor y Chwiorydd
Beth yw dementia?
Mae’r term dementia yn cynnwys ystod eang o symptomau. Mae’n effeithio ar bobl mewn ffyrdd amrywiol ac yn ogystal â’r broblem
o fethu cofio, ceir anhawster i weithio pethau allan ac i ddilyn sgwrs. Gall llawer o dasgau bob dydd hefyd fod yn fwy anodd.
Ond yr un person o hyd yw’r unigolyn â dementia. Mae’n nhw’n fam, tad, brawd, chwaer, ffrind neu gymydog rydych chi wedi’u
hadnabod erioed.
‘Mae’n anodd iawn esbonio beth yw dementia. Pan fydda i’n sgwrsio â rhywun, mae’n rhaid i mi wneud fy ngorau glas i wneud yn siŵr nad yw pobl yn meddwl nad oes gen i ddiddordeb am fy mod yn ymddwyn yn wahanol. Efallai nad ydw i’n gallu rhoi atebion fel y roeddwn i, ond mae gen i lawer i’w gynnig ac mae’n rhaid i chi ddal arni.’
Dyfyniad gan berson sy’n byw â dementia o daflen Gofynnwch Unrhyw Beth gan Gymdeithas Alzheimer.

Adnoddau Dementia
Rydym yn cynnig ystod o adnoddau fuddiol sydd ar gael isod:
Chwe cham allweddol tuag at Eglwys Dementia-gyfelligar

Gweddïau Gwerthfawr (CD)

Trysorau’r Ysgol Sul

Canllaw ar gyfer Eglwysi a’u harweinwyr

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
De Cymru: Sarah Morris – sarah.morris@ebcpcw.cymru
Rhif cyswllt: 01559 364928 / 07554005423
Gogledd Cymru: Carys Davies – carys.davies@ebcpcw.cymru
Rhif cyswllt: 01248 750323 / 07902 059832
Sasiwn y Dwyrain: Samantha Hodgins – sam.hodgins@ebcpcw.cymru
Rhif cyswllt: 07581 214847