ADNODDAU HYFFORDDIANT
Mae chwe pecyn hyfforddiant parod ar gael gan EBC. Gall y cyd-lynydd hyfforddiant eich helpu i gyflwyno’r deunydd mewn sesiynau hyfforddiant, neu gallwch ddefnyddio’r deunydd eich hunain o fewn eich hardal. Dyma fraslun o gynnwys y chwe pecyn:
Archwilio’r Ffydd
Mae’r cwrs academaidd yma yn addas ar gyfer pregethwyr lleyg, neu aelodau sy am gychwyn astudio yr Ysgrythur yn fwy academaidd. Defnyddir y deunydd gyda grŵp o bobl, gan gyfarfod unwaith neu ddwy bob mis. Bydd yn cymryd tua 2 flynedd i gwblhau’r cwrs cyfan, gyda gofyn cyflwyno gwaith ysgrifenedig.
Bydd y rhaglen yma’n cael ei adolygu yn ystod 2017.
Os ydych chi’n awyddus i gynnig y cwrs yma yn eich hardal chi, neu os oes unigolyn hoffai ymuno efo grŵp sy’n bodoli eisoes, cysylltwch â’r Cyd-lynydd Hyfforddiant.
Cwrs Hyfforddiant i Flaenoriaid ar gyfer Gweinyddu’r Sacramentau
Cliciwch ar y pennawd uchod i weld copi o lawlyfr y cwrs.
Mae’r rhaglen yn addas i’w ddefnyddio gyda grŵp o flaenoriaid, a bydd yn cymryd tua 4 mis gan gyfarfod unwaith neu ddwy bob mis. Bydd y cydlynydd hyfforddiant yn trefnu hyfforddwr yn eich hardal.
Mae’r cwrs yma wedi cael ei adolygu a’i ddiweddaru yn ystod 2016.
Rhaid i flaenor gael ei ch/gymeradwyo gan eu henaduriaeth, fel person addas i weinyddu’r Sacramentau cyn cael eu derbyn ar y cwrs.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, gan gynnwys peth gwaith ysgrifenedig, caiff y blaenor ei gomisiynu gan yr Henaduriaeth fel person addas i weinyddu sacramentau’r Cymun a’r bedydd.
Os oes blaenoriaid yn eich henaduriaeth chi hoffai gael eu comisiynu ar gyfer gweinyddu’r Sacramentau ( ee mewn cartref henoed; ar aelwyd henoed, neu mewn oedfa) cysylltwch â’r Cydlynydd Hyfforddiant.
Y Blaenoriaid a’u GwaithCliciwch ar y penawd uchod i weld copi o lawlyfr y cwrs. Cwrs hyfforddi a llawlyfr. Cyhoeddwyd 1998, adolygwyd 2014. Yn cynnwys pennodau ar: Beth yw Blaenor? Gall gweinidog ddefnyddio hwn yn sail gwaith grŵp efo’i b/flaenoriaid, neu gall y Cyd-lynydd Hyfforddiant drefnu person allanol i gynnal y cwrs yn yr henaduriaeth. |
‘Ewch yn Ei Enw Ef’
Cliciwch ar y penawd uchod i weld copi o lawlyfr y cwrs.
Adnodd hyfforddiant ar gyfer blaenoriaid a thimoedd ymweld, 2012.
Cynnwys:
Yr her i ofalu
Modelau o ofal bugeiliol
Ymweld a rhai sy’n ddifrifol wael
Gofalu am rai mewn profedigaeth
Gofalu am henoed dryslyd eu meddwl
Cyd-weddiwn
Mae’r adnodd yn cynnwys DVD a llyfryn gwaith.
Gall gweinidog ddefnyddio hwn yn sail gwaith grŵp efo aelodau a blaenoriaid yn yr eglwys, neu gall y Cyd-lynydd Hyfforddiant drefnu person allanol i gynnal y cwrs yn yr henaduriaeth.
Arwain AddoliadCliciwch ar y penawd uchod i weld copi o lawlyfr y cwrs. Cyhoeddwyd 2010 Mae’n cynnwys chwe sesiwn, sef: Gall un person ddefnyddio hwn yn sail gwaith grŵp efo’i ch/gyd-aelodau yn yr eglwys, neu gall y Cyd-lynydd Hyfforddiant drefnu person allanol i gynnal y cwrs yn yr ardal. Gellir hefyd gyflwyno sesiynau ar rannau o’r cwrs yn unig. |
Rôl Trysorydd y Capel
Cynhyrchwyd 2017
Cyflwyniad 2-3 awr, yn cynnwys power points gyda rhai gweithgareddau, ac astudiaethau achos.
Mae hwn yn addas ar gyfer trysoryddion newydd, neu rai sy’n edrych am arweiniad syml, clir i ofynion y swyddogaeth. Mae’n cynnwys:
• Y man cychwyn
• Tasgau’r Trysorydd
• Buddsoddi a Chyfrifon Banc
• Creu cyllideb am y flwyddyn
• Y ‘Cyfraniad Cyfundebol’
• ‘Cau’r Llyfrau’
Gall y Cyd-lynydd Hyfforddiant drefnu person addas i gyflwyno’r sesiwn yma yn eich henaduriaeth neu ardal. Mae copi ysgrifenedig o’r cynnwys ar gael os ydych yn drysorydd newydd ac eisio canllaw ar gyfer y gwaith.
Mae adnoddau y cwrs ar gael yma: Hyfforddiant Trysoryddion (PDF) a Cyflwyniad Trysoryddion y Capel (PDF) – cysylltwch a’r cyd-lynydd hyfforddiant am fersiwn PowerPoint