Eiddo

Yn yr adran hon ceir adnoddau ar gyfer rheoli a chynnal eiddo eich eglwys.

Dogfennau Eiddo

Dogfennau Yswiriant

Dolennu Eiddo

TAW ar Gapeli Rhestredig

Eiddo ar werth

Mae gennym ychydig o eglwysi sydd wedi cau sydd ar gael i’w werthu. I weld ein heglwysi sydd ar y farchnad ar hyn o bryd cliciwch yma

Rhentu Doeth

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud:

Os ydych yn gwneud unrhyw rai o’r dyletswyddau landlordiaid canlynol yng Nghymru, yna bydd angen i chi sicrhau bod eich eiddo yn cael eu cofrestru. Yr unig eithriadau yw os yw’r rhent yn LLAI NA £250 y flwyddyn, neu os oes gweinidog cyflogedig yn byw yn yr eiddo. Mae pob Ty Capel, sy’n eiddo i Eglwys Fflat yn / Tai etc ANGEN cael eu cofrestru.

 

  • cyhoeddi hysbysiadau neu ddosbarthu gwybodaeth;
  • trefnu â chynnal ymweliadau gyda darpar denantiaid;
  • paratoi neu drefnu cytundeb tenantiaeth;
  • paratoi neu drefnu rhestr eiddo ar gyfer yr annedd neu restr o gyflwr yr eiddo;
  • casglu rhent;
  • bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer y tenant mewn perthynas â materion sy’n codi dan y denantiaeth;
  • gwneud trefniadau gyda rhywun i gyflawni gwaith trwsio neu gynnal a chadw;
  • gwneud trefniadau gyda thenant neu feddiannwr yr annedd i sicrhau mynediad i’r annedd at unrhyw ddiben;
  • gwirio cynnwys neu gyflwr yr annedd, neu drefnu iddynt gael eu gwirio fel rhan o denantiaeth gyfredol neu un sydd wedi dirwyn i ben;
  • cyflwyno hysbysiad i derfynu tenantiaeth.

Gallwch wneud hyn drwy lenwi’r ffurflen gofrestru hon a’i dychwelyd at Alice neu Neil yn y Swyddfa Ganolog, Caerdydd. Efallai y bydd angen i chi hefyd gwblhau cwrs hyfforddi, gallwch wneud hyn ar-lein neu mewn ystafell ddosbarth. Cysylltwch ag Alice i drefnu cwrs hyfforddi perthnasol i chi.

Noder: Os ydych wedi dewis i gyfarwyddo Asiant Ystadau i reoli’r eiddo ar eich rhan, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gofrestru a’i dychwelyd i’r Swyddfa Ganolog.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad mae croeso i chi gysylltu â Alice neu Neil. Mae mwy o wybodaeth hefyd ar gael ar gwefan Rhentu Doeth Cymru yma.

Dogfennau Rhentu Doeth Cymru