Croeso
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn un o’r enwadau Cristnogol mwyaf yng Nghymru, gydag oddeutu 20,000 o aelodau ac oddeutu 600 o eglwysi. Ein nod yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.
Cawn ein hadnabod hefyd fel Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd a’r ‘Cyfundeb’. Daeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru i fod wedi diwygiad Methodistaidd y 18fed ganrif.
Mae gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru oddeutu 45 gweinidog a 30 gweithiwr Cristnogol. Mae hefyd yn berchen ar, ac yn rhedeg dwy ganolfan hyfforddiant, Coleg y Bala a Choleg Trefeca. Mae ganddi hefyd gysylltiadau cryf gydag eglwysi ac enwadau eraill, yn arbennig felly ei ‘merch’ Eglwys, Eglwys Bresbyteraidd yr India.
I ddarganfod mwy am ein gweithwyr a lle maent yn gwasanaethu cliciwch yma am fap.
I ddarganfod mwy am lleoliad ein capelu cliciwch yma am fap.
Mae tua dwy ran o dair o’n heglwysi yn addoli ac yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, a darperir ein holl waith gweinyddol canolog yn ddwyieithog.
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn elusen gofrestredig gyda’r Comisiwn Elusennau (elusen rhif 1132022).