Swyddi Gwag
EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU
Eglwys Bresbyteraidd Park End
Gweithiwr Teuluol
(Rhan amser)
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru Park End yn tyfu’r tîm ac yn awyddus i benodi rhywun i ymuno yr Eglwys i arwain, datblygu a chydlynu Gweinidogaeth Teuluol a Phobl Ifanc a Gweithgareddau Allgymorth.
Lleoliad: Eglwys Bresbyteraidd Cymru Park End, Heol Llandennis, Caerdydd
Oriau: 21 awr yr wythnos
Tymor: 3 blynedd (gyda’r 6 mis cyntaf yn gyfnod prawf)
Cyflog: £21,638 – £23,775 (Pwynt 18-22) a chyfle i ymuno ag EBC
Cynllun Pensiwn. Mae lwfans tŷ a char hefyd yn berthnasol i’r swydd.
I gael disgrifiad swydd a ffurflen gais, cysylltwch â [email protected]
I ddarganfod mwy am yr Eglwys ewch i www.parkendcardiff.org.uk &
https://www.youtube.com/c/ParkEndChurch
Mae’r Swydd hon yn amodol ar ddatgeliad manylach DBS a dau eirda boddhaol.
Mae gofyniad galwedigaethol Cristnogol yn berthnasol i’r swydd hon.
Dyddiad Cau: 21 Mehefin 2022, 4yh.
Y Weinidogaeth
Am wybodaeth ynglŷn â bod yn weinidog gyda ni, ewch i’r dudalen Hyfforddiant neu cysylltwch â’r Cyd-lynydd Hyfforddiant.
Ymweld â’r gweithle arfaethedig
Mae croeso i unrhywun sydd â diddordeb mewn ymgeisio am swydd gydag EBC i ymweld â’r gweithle arfaethedig am sgwrs anffurfiol cyn gwneud cais. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar yr hysbyseb perthnasol
Dylid dychwelyd ffurflenni cais i Swyddfa Ganolog EBC, Capel Tabernacl, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 1DD neu [email protected] oni nodir yn wahanol