Ein Hanes

Daeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru i fod yn gynnar yn y 19eg ganrif yn dilyn y Diwygiad Methodistaidd, ac mae bellach yn Eglwys o tua 20,000 o aelodau.


Yn 2011 dathlodd Eglwys Bresbyteraidd Cymru ddaucanmlwyddiant yr ordeinio cyntaf yn 1811.


1735 Dechreuad y Diwygiad Methodistaidd trwy dröedigaeth Howel Harris a Daniel Rowland.


1811 Gwahanu oddi wrth Eglwys Loegr drwy ordeinio gweinidogion yn y Bala ac yn Llandeilo.


1823 Llunio a mabwysiadu Cyffes Ffydd.


1826 Corffori’r Eglwys – neu’r Cyfundeb trwy Weithred Gyfansoddiadol.


1837 Lewis Edwards a David Charles yn agor ysgol yn y Bala, a gafodd ei throi yn Goleg i addysgu gweinidogion ym 1839.


1840 Sefydlu’r Gymdeithas Genhadol Dramor i anfon cenhadon i Fryniau Khassia a Jaintia yn Assam, India.


1842 Sefydlu Coleg i addysgu gweinidogion yn Nhrefeca.


1845 Penderfynu rhoi’r holl eglwysi dan ofal gweinidog. Hefyd, cyhoeddi rhifyn cyntaf Y Traethodydd, cylchgrawn chwarterol sy’n cael ei gyhoeddi hyd heddiw.


1864 Cyfarfod cyntaf y Gymanfa Gyffredinol, yn Abertawe.


1933 Pasio deddf Seneddol i newid y cyfansoddiad


1947 Sefydlu’r Sasiwn yn y Dwyrain, sef llys eglwysig ar gyfer yr eglwysi Saesneg eu hiaith.


1958 Sefydlu Cronfa Gynnal i sicrhau cyflog teg a mans i bob gweinidog.


1968 Cenhadon olaf yn dod adref o ogledd-ddwyrain India. Hefyd, troi Coleg y Bala yn ganolfan plant ac ieuenctid.


1975 Y Cyfamod tuag at Undod gydag eglwysi eraill yng Nghymru.


1978 Pamela Turner yn cael ei hordeinio yn weinidog – y wraig gyntaf. Hefyd, dod yn aelod o Gyngor y Cenhadaeth Fyd-eang (CWM).


1983 Penodi’r Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf – Parchedig Dafydd Owen.


2004 Y Swyddfa Ganolog yn symud i’w safle presennol yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd.


2007 Mabwysiadu strwythur newydd ar gyfer Henaduriaethau a Byrddau’r Gymanfa Gyffredinol.


2008 Cofrestru Eglwys Bresbyteraidd Cymru fel elusen a mabwysiadu cyfansoddiad newydd.


2012 Penodi’r Parchedig Meirion Morris yn Ysgrifennydd Cyffredinol.

Sefydlwyd Cymdeithas Hanes Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn 1914 er mwyn hybu ymchwil i hanes yr Eglwys. Mae’n bennaf gyfrifol am ddiogelu dogfennau’r Eglwys, noddi’r Ddarlith Hanes flynyddol yn y Gymanfa Gyffredinol a chyhoeddi’r Cylchgrawn Hanes.

Mae’r Parchedig Ddr Elwyn Richards, Ysgrifennydd y Gymdeithas Hanes yn derbyn tanysgrifiadau’r Gymdeithas ac yn croesawu aelodau newydd. £8 yw’r tâl aelodaeth blynyddol, ac mae hyn yn cynnwys tanysgrifiad i’r Cylchgrawn Hanes.

Cedwir archif Eglwys Bresbyteraidd Cymru (a adnabyddir hefyd fel Archif y Methodistiaid Calfinaidd) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Dr Eryn M. White yw Curadur y Gymdeithas Hanes. Dylid anfon unrhyw archifau iddi i’r Adran Hanes Cymru, Adeilad Huw Owen, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, SY23 3DY (01970 622662).