Ein Trefn

Ein Trefn

Mae’r gair ‘Presbyteraidd’ yn disgrifio ffurf o lywodraeth eglwysig sy’n pwysleisio cyfrifoldeb unigol pob aelod ac eglwys leol. Caiff Eglwys Bresbyteraidd Cymru ei llywodraethu drwy lysoedd: yr Henaduriaethau, y Gymdeithasfa a’r Gymanfa Gyffredinol. Nid oes gan unrhyw berson na grŵp fwy o awdurdod na neb arall o dan y strwythur hwn.

Yr Arglwydd Dduw yw pen yr Eglwys, ac felly nid oes gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru berson yn arweinydd ysbrydol iddi. 

Eglwysi

Mae pob eglwys sy’n perthyn i Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn cael ei harwain gan flaenoriaid sy’n cael eu hethol gan y gynulleidfa.

Henaduriaethau

Mae pob eglwys yn perthyn i Henaduriaeth a disgwylir i’r blaenoriaid fynychu cyfarfodydd yr Henaduriaeth a gynhelir yn rheolaidd. Mae’r Henaduriaethau yn gyfrifol am gynllunio gwaith gweinidogaethol a chenhadol o fewn eu ffiniau. Maent hefyd yn ordeinio blaenoriaid, yn arolygu galwad gweinidogion ac yn cydlynu gwaith plant ac ieuenctid. Ceir 14 Henaduriaeth: mae deg yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r gweddill trwy’r Saesneg.

Y Gymdeithasfa

Mae pob Henaduriaeth yn rhan o’r Gymdeithasfa. Mae tair rhan i’r Gymdeithasfa: y Gymdeithasfa yn y Dwyrain, y Gymdeithasfa yn y De a’r Gymdeithasfa yn y Gogledd. Mae’r Henaduriaethau cyfrwng Saesneg yn ffurfio’r Gymdeithasfa yn y Dwyrain. Mae’r Gymdeithasfa yn arolygu ac yn cymeradwyo gwaith yr Henaduriaethau. Mae hefyd yn gyfrifol am ordeinio gweinidogion.

Y Gymanfa Gyffredinol

Prif gyfarfod blynyddol Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw’r Gymanfa Gyffredinol. Mae pob gweinidog a blaenor yn aelod o’r Gymanfa Gyffredinol, ond fel arfer bydd tua 150 yn mynd yno i gynrychioli’r Henaduriaethau, y Gymdeithasfa a Byrddau’r Gymanfa Gyffredinol. Yn cadeirio’r Gymanfa Gyffredinol mae’r Llywydd. Etholir Llywydd newydd bob blwyddyn.

Bwrdd, Paneli ac Adrannau Y Gymanfa Gyffredinol

Mae’r Gymanfa Gyffredinol yn cael ei chynghori a’i chefnogi gan:

  • Bwrdd y Gymanfa Gyffredinol; sy’n gweithredu fel Pwyllgor Gwaith y Gymanfa, yn llunio polisïau ac yn rhoi cyfeiriad ac arweiniad i’r Eglwys gyfan.
  • Nifer o baneli ac adrannau. Mae ganddynt i gyd gyfrifoldeb dros elfen benodol o waith a bywyd yr Eglwys, a byddant fel arfer yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn.

Y Swyddfa Ganolog

Y Swyddfa Ganolog yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, yw canolfan weinyddol Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yr Ysgrifennydd Cyffredinol yw’r prif swyddog gweinyddol ac y mae’n atebol i’r Gymanfa Gyffredinol.