Mae Llywydd Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gyfrifol am gadeirio cyfarfodydd y Gymanfa Gyffredinol. Mae ef neu hi yn dal y swydd am flwyddyn.
Mae’r Llywydd yn aelod o holl Fyrddau y Gymanfa Gyffredinol, felly hefyd y Llywydd Etholedig a’r Llywydd sydd newydd ymadael â’r swydd. Bydd y Llywydd hefyd yn cynrychioli Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru wrth ddelio gyda’r Cyfryngau, mewn digwyddiadau eciwmenaidd cenedlaethol ac ym mhrif lysoedd Eglwysi eraill, yn ogystal â mynychu dathliadau mawr tramor, yn arbennig y rhai a drefnir gan Eglwys Bresbyteraidd yr India. Caiff ei wahodd neu ei gwahodd hefyd i fynychu cyfarfodydd Henaduriaethau a’r Gymdeithasfa, ac i gynrychioli EBC mewn cyfarfodydd megis gwasanaethau sefydlu neu gomisiynu gweithwyr newydd.
Bydd y Llywydd yn draddodiadol yn rhoi araith ymadawol ar ail noson y Gymanfa Gyffredinol a bydd y Llywydd Etholedig wedyn yn dod i’r Gadair. Dewisir y Llywydd Etholedig drwy bleidlais gudd yn ystod y Gymanfa. Bydd pob Talaith o’r Gymdeithasfa yn ei thro yn enwebu tri ymgeisydd.
Nid y Llywydd yw pen Eglwys Bresbyteraidd Cymru: yr Arglwydd Dduw yw pen yr Eglwys, ac felly nid oes gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru berson yn arweinydd ysbrydol iddi.
Ein Llywydd Etholedig 2022-23

Y Llywydd Etholedig am 2022-23 yw Parchedig Aneurin Owen
Un o blant y maes cenhadol ym Mizoram yw Aneurin, yn fab i’r Parch. Owen W Owen ac Eluned. Wedi dod i Gymru bu’n treulio plentyndod ym Mhontrhydyfen ac yna yn Llansannan cyn symud i Abergele ple bu gweinidogaeth y Parch Isaac Jones a’r Parch Emyr Roberts yn ddylanwadau cryf.
Astudiodd ddiwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, Caergrawnt ac yna derbyniodd dystysgrif mewn Cymdeithaseg (Bangor) a Diploma ol-radd mewn cynghori o Brifysgol Caergaint.
Wedi priodi a chartrefu yn Abergele bu’n arwain y datblygiad yn yr ymateb i gynnydd dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yng Nghymru cyn symud ymlaen i weithio’n rhyngwladol ym maes polisiau rheolaeth alcohol.
Cadwodd gysylltiad clos hefo Mizoram ac y mae’n parhau i greu pontydd rhwng EBC a’r PCI a’r synod Mizoram. Cafodd ei godi’n flaenor ym Mynydd Seion, Abergele ym 1984, ac yn Llansannan yn 1996. Derbyniodd alwad i weinidogaethu ym Mro Aled a’i ordeinio yn 2010.
Bu’n cadeirio’r Adran Ymgeiswyr ac Hyfforddiant ac Adran yr Eglwys Fyd-eang am gyfnod gan gydweithio gyda phartneriaid CWM. Wedi cyfnod o ymddeoliad y mae rwan yn fugail rhan amser gyda eglwys y Berthen, Licswm ers dechrau 2022.
Y mae’n ei chyfri’n fraint aruthrol i dderbyn Lywyddiaeth EBC ac i wasanaethu’r Arglwydd yn hyn os dyma’i ewyllys.
Ein Llywydd Presennol 2021-22

Cafodd y Parchedig Evan Morgan ei eni a’i fagu ar gyrion Gogledd Llundain, yn drydedd genhedlaeth o Gymry Llundain, a’r teulu’n hanu’n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, ac fe’i magwyd yng nghapel Wood Green, yn Henaduriaeth Llundain.
Ar ôl teimlo’r alwad fe’i cyflwynodd ei hun i’r weinidogaeth pan yn ddeunaw oed. Graddiodd mewn Diwinyddiaeth a dilynodd y cwrs bugeiliol yn Y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth. Derbyniodd alwad yn 1989 i Henaduriaeth Trefaldwyn Uchaf i fugeilio eglwysi Maengwyn a’r Capel Saesneg ym Machynlleth; Pantperthog, Forge, Derwenlas a Melinbyrhedyn. Yn 1999 derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar eglwysi Salem, Treganna a Bethel, Rhiwbeina yng Nghaerdydd lle mae’r pwyslais yn gryf ar estyn allan i’r gymuned ehangach, gan gynnwys gweithio gyda’r digartref a chyda theuluoedd, plant ac ieuenctid. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol yn aelodaeth yr eglwys wrth iddi groesawu nifer o deuluoedd newydd a ymsefydlodd yn y ddinas.
Bu’n is-gadeirydd Bwrdd y Genhadaeth am gyfnod (cyn yr aildrefnu Cyfundebol). Mae’n aelod o Adran Eglwys a Chymdeithas a bu’n Llywydd y Gymdeithasfa yn y De 2018-19. Mae wrth ei fodd yn darllen, teithio a chymdeithasu. Derbyniodd y gwahoddiad i draddodi’r Ddarlith Davies yn y Gymanfa Gyffredinol llynedd.
Cyn Llywyddion

Parch Marcus Robinson
2019-2021

Parch Brian Matthews
2018-2019

Parch Brian Huw Jones
2017-2018

Yr Athro Gwynfor Jones
2016-2017

Parch Elwyn Richards
2015-2016

Parch Neil Kirkham
2014-2015

Parch Trefor Lewis
2013-2014

Parch Dafydd Andrew Jones
2012-2013

Parch Robert Owen Roberts
2011-2012

Parch Iain Hodgins
2010-2011

Parch Gwenda Richards
2009-2010