Y Gymanfa Gyffredinol
Y Gymanfa Gyffredinol yw cyfarfod blynyddol unedig tair Cymdeithasfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru. (Y Gymdeithasfa yn y Gogledd, Y Gymdeithasfa yn De, Y Gymdeithasfa yn y Dwyrain).
Mae’n cyfarfod am gyfnod o dri diwrnod ym mis Gorffennaf. Croesewir tua 150 o gynrychiolwyr sy’n cynrychioli’r pedair henaduriaeth ar ddeg, y Gymdeithasfa yn y tair talaith, a thri Bwrdd yr Eglwys. Croesewir hefyd wahoddedigion o sawl eglwys arall, eglwysi yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thramor.
Mae’r Gymanfa Gyffredinol yn cynnwys addoliad dyddiol, darlithoedd a sesiynau busnes pryd y bydd y cynrychiolwyr yn trafod ac yn pleidleisio ar faterion allweddol i’r Eglwys. Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn ystod y Gymanfa Gyffredinol hefyd.
Y Llywydd sy’n cadeirio’r Gymanfa Gyffredinol. Bydd y Llywydd yn cyflwyno araith ymadawol ar ail noson y Gymanfa Gyffredinol a bydd y Llywydd etholedig wedyn yn esgyn i’r gadair.
Cymanfa Gyffredinol 2020
Byddwn yn cynnal Cymanfa Gyffredinol 2020 yn Caernarfon rhwng 6-8 o Orffennaf 2020.
Dyma rai adnoddau defnyddiol ar gyfer y Gymanfa Gyffredinol 2019:
Yn dod yn fuanCymanfa Gyffredinol 2019
Cynhelir Cymanfa Gyffredinol 2019 yn Wrecsam rhwng 8-10 o Orffennaf 2019.
Cymanfa Gyffredinol 2018
Cynhelir Cymanfa Gyffredinol 2018 yn Wrecsam rhwng 9-11 o Orffennaf 2018.
Cymanfa Gyffredinol 2017
Cynhelir Cymanfa Gyffredinol 2017 yn Ne Cymru ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Campws Cyncoed rhwng 3-5 o Orffennaf.
Am luniau y 3 dydd, cliciwch yma
Cymanfa Gyffredinol 2016
Cynhelir Gymanfa 2016 yn Eglwys Unedig Seilo Llandudno rhwng Gorffennaf 11 a 13.
Am luniau y 3 dydd, cliciwch yma