Yr hyn a gredwn

Amcan Eglwys Bresbyteraidd  Cymru yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.

Mae Duw yn haeddu ac yn hawlio ein haddoliad. Wrth drefnu gwahanol wasanaethau addoli, astudiaethau Beiblaidd, cyfarfodydd gweddi, gwaith plant a phobl ifanc, a digwyddiadau eraill, ceisiwn ddysgu pobl Dduw a rhoi anogaeth iddynt, yn ogystal â chyflawni ein cenhadaeth a chyrraedd at eraill gyda’r Efengyl. Mae ein gwasanaethau yn agored i bawb, gyda ffurf ac amser yr oedfa yn gwahaniaethu o eglwys i eglwys, felly ein gobaith yw y gall pawb ddod o hyd i fan addoli lle maent yn teimlo’n gyfforddus. Gallwch ddarganfod mwy am addoliad yr eglwysi lleol drwy bori yn adran yr Eglwysi.

‘Rydym yn mynegi ein cariad at Dduw trwy gariad at ein gilydd ac at eraill o’n cwmpas. Gan ddilyn dysgeidiaeth Iesu, mae ein heglwysi yn pwysleisio gofal bugeiliol, sy’n golygu gofalu am aelodau eglwysig a phobl eraill o fewn y gymuned. Mae ein heglwysi yn weithredol o fewn eu cymunedau lleol ac mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru hefyd yn cyflogi a chefnogi gweithwyr cymunedol a chaplaniaid sy’n gweithio gyda gwahanol grwpiau ar hyd a lled Cymru.

‘Rydym yn ceisio sefyll dros gyfiawnder a heddwch yn ein byd, a hefyd yn ceisio diogelu ein hamgylchfyd ym mhob ffordd bosibl.

Cyffes Ffydd

Lluniwyd a mabwysiadwyd ein Cyffes Ffydd, yn 1823. Mae’n dilyn patrwm Eglwysi Diwygiedig eraill, ac yn arbennig Cyffes Wesmenstr, tra bod yr eirfa yn dibynnu’n helaeth ar gymalau o fewn Hyfforddwr a Geiriadur Beiblaidd Thomas Charles. Wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf crynhowyd hanfodion ein credo mewn Datganiad Byr ar Ffydd a Buchedd, ac yna mewn cyfres o Erthyglau Datgeiniol a gorfforwyd oddi mewn i Ddeddf y Methodistiaid Calfinaidd neu Eglwys Bresbyteraidd Cymru 1933.

Y Gyffes Fer o’n Ffydd

Mae’r Gyffes Fer o’n Ffydd yn crynhoi’r Erthyglau Datgeiniol ac yn adlewyrchiad o gredoau craidd Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Credwn yn Nuw Dad Hollalluog, Creawdwr a Llywodraethwr pob peth.

Credwn yn Iesu Grist, ei Uniganedig Fab, ein Harglwydd a’n Gwaredwr. Trwy ei fywyd, ei farwolaeth ar y Groes a’i atgyfodiad, gorchfygodd bechod ac angau gan faddau inni ein pechodau a’n cymodi â Duw.

Credwn yn yr Ysbryd Glân. Trwyddo Ef y mae Crist yn preswylio yn y credinwyr, gan eu sancteiddio yn y gwirionedd.

Credwn yn yr Eglwys, Corff Crist a chymdeithas y saint; yn yr Ysgrythurau sanctaidd, yng Ngweinidogaeth y Gair a’r Sacramentau.

Credwn yn nyfodiad Teyrnas Dduw ac yng ngobaith gwynfydedig y bywyd tragwyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist.

Credwn mai diben pennaf dyn ydyw gogoneddu Duw a’i fwynhau byth ac yn dragywydd.