
Apêl Covid 19 dros Ysbyty H.Gordon Roberts yn Shillong, ac Ysbyty Norman Tunnel yn Jowai
Annwyl ffrindiau,
Dros fis yn ôl bellach lansiwyd Apêl Covid19 India. Y nôd oedd codi £30,000 i alluogi dau ysbyty ym Mryniau Casia yng Ngogledd Ddwyrain India, sef Ysbyty Dr H. Gordon Roberts yn Shillong, ac Ysbyty Norman Tunnel yn Jowai, i brynu offer i drin y niferoedd mawr o gleifion oedd yn dioddef o’r haint.
Mae’n bleser datgan ein bod bellach fel Cyfundeb wedi hen fynd heibio’r nôd ariannol hwnnw, a’n bod wedi codi dros £60,000 tuag at waith yr ysbytai. Mae’r offer oedd ei angen wedi cyrraedd ac o gymorth mawr i’r staff a’r cleifion. Fy mraint i yw diolch i chi i gyd am eich haelioni, a gwneud hynny gan wybod fod ein cyfeillion yn y ddau ysbyty wedi gwerthfawrogi ein consyrn a’n cefnogaeth ymarferol. Byddwn yn parhau mewn trafodaeth â hwy er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o’r arian sydd ar ôl er lles y miloedd sydd yn elwa’n flynyddol o wasanaeth yr ysbytai.
Bu’r ymateb i’r Apêl yn rhyfeddol, a charwn ddiolch yn arbennig i’r Parchedig Marcus Wyn Robinson, Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, i’r Parchedig Meirion Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol yr enwad, y Parchedig Nan Wyn Powell-Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Adran Gweinidogaethau, ac i staff y Swyddfa yng Nghaerdydd am eu cydweithrediad parod a’u llafur cyson yn sicrhau llwyddiant yr Apêl. Bu cyfraniad Gwynn Angell Jones hefyd yn allweddol wrth i’w gysylltiadau agos â’r ysbytai sicrhau fod yr offer priodol yn cyrraedd yn ddiogel ac mewn da bryd. Ond mae’r diolch pennaf i bawb ddaru gofleidio’r Apêl a chyfrannu mor hael ati Canmil diolch i chi i gyd.
Ein gobaith yw gweld atal lledaeniad yr haint yn yr India, a byddwn fel Eglwys yn parhau i weddïo dros y sefyllfa yno.
Erbyn hyn daeth yn amser cau pen y mwdwl a dod â’r Apêl i’w therfyn yn swyddogol. Gwn fod ambell eglwys heb allu anfon eu cyfraniadau eto, ac yn sicr byddwn yn parhau i dderbyn eich rhoddion yn ddiolchgar. Diolch eto, o waelod calon i bob un ohonoch.
Gyda chofion cywir,
Gwenda Richards