Bob pum mlynedd bydd aelodau Eglwys Bresbyteraidd Cymru’n cyfrannu at apêl Cymorth Cristnogol. Eleni yn y Gymanfa Gyffredinol yng Nghaernarfon lansiwyd Hadau Gobaith, Apêl 2022. Rydym yn anelu at godi £250,000 i’r apêl – swm sy’n cyfateb i oddeutu £15 – £20 yr aelod.
Mae’r apêl yn amserol iawn. Mae’n dod ar gefn flwyddyn anodd i ni yma, ond i’n cymdogion ym mannau tlotaf y byd, blwyddyn fwy heriol fyth.
Mae’r coronafeirws, diffyg dŵr glan, bwyd, trais a gwrthdaro wedi golygu pwysau mawr ar gymunedau. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae trychinebau hinsawdd wedi cyffwrdd ar bobol ym mhob rhan o’r byd. Llifogydd ym Mhakistan a De Swdan, stormydd llym yn yr Americas er enghraifft.
Effaith hirdymor her newid hinsawdd fydd ffocws yr apêl. Yn benodol, yr heriau sy’n wynebu rhai o wledydd tlotaf y byd. Byddwn yn cychwyn yr apel drwy ganolbwynito ar Kenya.
Mae Cymorth Cristnogol wedi bod yn gweithio yn Kenya ers 1997. A trwy bartneriaid lleol yn cefnogi pobl sy’n mewn tlodi i ymateb ac i addasu i’r argyfwng hinsawdd.
Dymunwn bob bendith i’ch cynulleidfaoedd yn eich ymdrechion codi arian, ac edrychwn ymlaen at gyrraedd ein nod ariannol gyda’n gilydd.

Galeri
Mae pob llun yn eiddo i Cymorth Cristnogol