Apêl y Llywydd – Apêl Manipur
Beth yw Cysylltiad EBC gyda Manipur?
Aiff ein cysylltiad fel eglwys a chenedl gyda thalaith Manipur yn yr India yn ôl at ddechrau’r ugeinfed ganrif. Fe ysbrydolwyd nifer o genhadon Cymreig gan fendith tywalltiad yr Ysbryd Glân yn Niwygiad 1904/05 i gynnig eu hunain fel cenhadon yn yr India. Un o’r rheiny oedd chwarelwr ifanc o’r enw Watkin Roberts o Gaernarfon a aeth yng nghwmni Dr Peter a’i wraig Mary Catherine Fraser fel cenhadon meddygol, allan i Mizoram ar ei draul ei hun yn 1908. Yn 22 oed pan gyrhaeddodd Mizoram, fe gafodd yr enw: ‘Pu Tlangval’ (Mr. Dyn ifanc) enw a gadwoddam weddill ei oes.
Roedd gan Watkin Roberts faich dros y bobl o lwyth yr Hmar yng ngogledd Mizoram a de Manipur a oedd prin wedi eu cyrraedd gyda’r Efengyl hyd hynny. Dysgodd eu hiaith, a oedd yn debyg iawn i iaith Mizo, a sicrhaodd gopiau o Efengyl Ioan i’w anfon yn rhodd at benaethiaid pentrefi llwyth yr Hmar. Stori ddiddorol yw honno sydd yn dwyn i gof haelioni Miss Emily Davies, a roddodd y £5 cyntaf i Watkin Roberts a’i ysbrydolodd a’i alluogi i ymgymryd â’r genhadaeth hon.
Daeth neges yn ôl gan benaeth pentref Senvawn dros y ffin yn Manipur yn gofyn ar i rywyn ddod i esbonio’r hyn oedd yn cael ei ddweud yn y llyfr iddyn nhw ac am Dduw. Ond roedd y pentref mewn talaith arall ac nid oedd hawl gan genhadon o Mizoram i fynd dros y ffiniau taleithiol oedd wedi eu gosod gan lywodraeth Prydain a Maharajah Manipur. Er y peryglon a’r rhybuddion y byddai’n cael ei ladd gan y llwyth ffyrnig hwn, fe sicrhaodd Watkin Roberts y caniatâd oedd ei angen i fynd yno ar daith genhadol fer yn 1910 ynghyd a phedwar o gydweithwyr brodorol o Aizawl.
Wedi pum niwrnod o ddysgu yno am yr Efengyl, fe gyhoeddodd y pennaeth a phedwar gŵr arall o’r llwyth yno eu bod am wneud heddwch gyda Duw y Beibl a chredu yn Iesu Grist. Daeth pentref Senvawn yn ne Manipur yn ganolfan ar gyfer yr Efengyl a fyddai’n cael ei heffaith ar weddill y dalaith wrth i ysgol ac eglwys fywiol newydd gael ei sefydlu yno. Er nad oedd iddo ganiatâd i aros yno i weithio, fe gadwodd Watkin Roberts mewn cysylltiad gyda’r eglwys ifanc hon a’u cefnogi wrth sefydlu cenhadaeth a fyddai’n cynnwys y cenhadon cyntaf o Mizoram ei hun. O fewn dwy genhedlaeth yr oedd llwyth yr Hmar wedi troi bron yn gyfan at yr Efengyl a miloedd o eglwysi wedi eu sefydlu ymysg amrywiaeth eang o lwythau ethnig ar draws Talaith Maniur i gyd.

Apêl Manipur – Her 14 Copa Jos ac Owain
“Dydd Sadwrn, 31ain o Fai, bydd tad a mab – Owain a Joseff Edwards – ynghyd â chriw o ffrindiau, yn ymgymryd â her Cymru 3000. Mae 15 o fynyddoedd yng Nghymru sy’n fwy na 3000 o droedfeddi, a’u nod yw cyrraedd copa pob un ohonynt o fewn 24 awr.
Yn ôl ym mis Mawrth, ar daith arbennig i Mizoram yng Ngogledd India, cafodd Owain a Joseff gyfle i gyfarfod â ffoaduriaid o Manipur – cymuned o tua 40 o deuluoedd a orfodwyd i ffoi oherwydd gwrthdaro ethnig ffyrnig. Bellach, maent wedi’u dadleoli ac yn derbyn lloches ym Mizoram, lle mae eu anghenion yn enfawr.
Eu ymateb yw sicrhau bod pob milltir a gerddwyd a phob troedfedd a ddringwyd yn codi arian ar gyfer apêl arbennig Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
‘She Ultra’ – Parch Nan Powell-Davies
Dydd Sadwrn y 12fed o Ebrill mi fydda i’n cymryd rhan mewn ‘Ultra Marathon’ ym Mhen Llŷn. Y bwriad yw cerdded, a phwy a wŷr, efallai redeg ychydig o’r 50Km (31 milltir) o amgylch Pen Llŷn.
Fe fydd pob milltir, pob cam yn wir yn cael ei gymryd er mwyn codi arian at Apêl arbennig Eglwys Bresbyteraidd Cymru eleni, sef ‘Apêl Manipur’.
Ers mis Mai 2023 y mae gwrthdaro ethnig ffyrnig wedi bod rhwng llwythau’r Meitei a’r Kuki-Zo yn nhalaith Manipur yng Ngogledd Ddwyrain yr India. Yn y cyfnod hynny mae miloedd o gartrefi a channoedd o bentrefi ac Eglwysi Cristnogion y Kuki-Zo wedi eu llosgi’n ulw, a channoedd ohonynt wedi colli eu bywydau. Mae miloedd ar filoedd o’r llwyth wedi eu dad leoli ar hyd a lled y rhanbarth a’r byd, ond yn arbennig yn y taleithiau cyfagos yn y Gogledd Ddwyrain.
Fel Eglwys yma yng Nghymru, mae ein cysylltiad ni â llwythau Gogledd Ddwyrain yr India yn mynd yn ôl bron i ddwy ganrif, ac oherwydd y berthynas arbennig hon ni allwn oddef gweld Cristnogion y Kuki-Zo, yn cael eu herlid fel hyn heb godi llaw i’w cynorthwyo a chydsefyll mewn gweddi a gweithred efo nhw.
Ar ymweliad ag Aizawl, Mizoram ym mis Rhagfyr llynedd, cefais gyfle i ddathlu’r Nadolig gyda’r gymuned o 40 o deuluoedd o Manipur oedd wedi eu dad leoli yno. Dyma ddywedodd Robert, un o’r Tadau ifanc y cefais gyfle i’w holi…… ‘Rydym ni’n hiraethu am gael dychwelyd adref, ond ar hyn o bryd mae hynny’n edrych yn bur annhebygol. Mae ein hangen ni mor fawr, ond rydym ni’n parhau i ddal gafael mewn gobaith’.
Rydw i’n bwriadu cerdded/rhedeg y daith i gasglu arian i weld Robert a miloedd lawer o rai tebyg yn ad-ennill eu hurddas ac yn cael dychwelyd yn ôl i’w cartrefi a’u cymunedau I’w hailadeiladu mewn diogelwch. Ar ran Robert a miloedd o rai eraill o’n Brodyr a’n Chwiorydd yn Manipur, diolch i chi am eich haelioni.

Podlediad Apêl y Llywydd





