Chwiorydd

Swyddogion 

 

Llywydd: Marion Simkin, Nercwys 2024-2027

Eirian Roberts: Cydlynydd Gwaith Chwiorydd

Sarah Morris: Ysgrifennydd a Chydlynydd Dorcas, De Cymru

Carys Davies: Cydlynydd Dorcas, Gogledd Cymru

Amdanom ni

Mae Pwyllgor y Chwiorydd yn adran weithgar iawn o fewn Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o bob Sasiwn Genhadol a Henaduriaeth.

Ein nod: yw annog ein chwiorydd i dyfu yn eu ffydd, i fod yn dystion effeithiol a pherthnasol i Iesu Grist yn ein cymunedau ac i gynnig cefnogaeth i genhadaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Datganiad

Llawenhawn yn Nuw ein Tad nefol a’n creodd ni a’n galw trwy ei ras.

Down i berthynas fyw gyda’n Tad nefol trwy fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist.

Cyffeswn Iesu Grist fel ein Harglwydd a’n Gwaredwr ac yr ydym yn ei addoli a’i wasanaethu â llawenydd.

Credwn fod ein Tad yn ein galw i fyw newyddion da ei gariad heddiw ac, wedi’n grymuso gan yr Ysbryd Glân, rydym yn cynnig ein bywydau i wasanaethu’r byd.

Dathlwn ein haelodaeth o eglwys Crist trwy fentro ymlaen mewn ffydd gydag Ef wrth ein hochr.

Mae Is-bwyllgor y Chwiorydd yn adran weithgar iawn o Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

 

 

Mae llawer o’r chwiorydd yn gweithio’n ddiwyd iawn o fewn eu heglwysi, dosbarth a Henaduriaeth, yn cyfrannu mewn sawl ffordd at fywyd yr Eglwys.

 

 

Ein nod: yw tystiolaethu’n effeithiol a pherthnasol i Iesu Grist yng nghyd-destun y Chwiorydd. Trwy eu harwain a’u cynorthwyo i dyfu yn ei ffydd ac i dystiolaethu a gwasanaethu yn lleol ac i estyn allan yn fyd-eang.

Mae’r Bwletin Cenhadol yn adnodd gwerthfawr i’r Chwiorydd dderbyn newyddion rheolaidd a rhannu gwybodaeth. Darperir gan Eirian Roberts, Trefnydd Gwaith y Chwiorydd yn swyddfa’r Chwiorydd yn y Bala.

Am fanylion pellach am y Chwiorydd a’u gwaith, cysylltwch ag Eirian Roberts, Trefnydd Gwaith Chwiorydd rhan amser, at 01678520056, neu e-bostiwch eirian.roberts@ebcpcw.cymru

Cliciwch yma i ddarllen Y Bwletin Cenhadol.