Cydlynwyr Diogelu

Yn dilyn penderfyniad y Gymanfa Gyffredinol 2024, mae hi nawr yn ofynnol i benodi Cydlynydd Diogelu yn eich eglwys. Mae hwn yn hanfodol os ydych yn cynnal gwaith penodol i blant a phobl bregus.

Cydlynydd Diogelu Lleol

Er bod diogelu yn fater i bawb ac mae’n wir fod cyfrifoldeb ar bob un ohonom i helpu i ddiogelu plant ac oedolion bregus, y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod yr eglwys yn cyflawni ei chyfrifoldebau diogelu ac yn dilyn y polisi diogelu yw penodi Cydlynydd Diogelu.

Mae’r Panel wedi paratoi taflen CYDLYNYDD DIOGELU YDW I …beth nesaf? i helpu’r cydlynydd lleol i ddeall disgwyliadau y rôl ac rydym hefyd yn dechrau sesiynau hyfforddi newydd ar gyfer cydlynwyr lleol yn 2024.

Mae na cyrsiau hyfforddiant ar gyfer cydlynwyr.  

Cliciwch y ddolen Cydlynydd Diogelu Lleol (panel.cymru)am fwy o wybodaeth ac i archebu eich lle

Bydd y cwrs yn ymdrin â rhywfaint o ddeunydd sylfaenol o gwrs lefel 1 ond bydd yn canolbwyntio’n bennaf ar rôl y cydlynwyr ac yn edrych ar ofynion y polisi diogelu, recriwtio mwy diogel a’r proses a meini prawf cymhwysedd y gwiriad DBS

Gan nad yw’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar arwyddion cam-drin a sut i ymateb, rydym yn cynghori eich bod yn cwblhau cwrsGofal Cymdeithasol Cymru e-ddysgu Grŵp A ar-lein  yn  ogystal â chwrs diogelu Panel Lefel 1 neu 2 i’ch arfogi i ddelio â materion diogelu yn lleol. Gellir dod o hyd i fanylion yr holl gyrsiau hyn ar dudalen hyfforddiant  ar wefan y Panel.

Dyddiadau Hyfforddiant

1. SESIYNAU LEVEL 1 (Sesiwn 2 awr – addas ar gyfer gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr )

Mae gennym dîm bach o hyfforddwyr gwirfoddol o bob cwr o Gymru sy’n gallu darparu hyfforddiant diogelu lefel 1 sylfaenol i wirfoddolwyr mewn eglwysi lleol. Gall hyn fod wyneb yn wyneb neu’n rhithiol dros zoom. Maent wedi derbyn hyfforddiant ac adnoddau i sicrhau bod yr hyfforddiant yn gyson.  Gobeithiwn y bydd hyn yn cynyddu nifer y sesiynau hyfforddiant sydd ar gael.

NODIR Y SESIYNAU PRESENNOL ISOD CYSYLLTWCH A PANEL.CYMRU  OS HOFFECH DREFNU SESIWN.

Gallai hyn fod wyneb yn wyneb neu rithiol dros Zoom yn dibynnu ar argaeledd hyfforddwr lleol.

 

 2024

30/10/2024 Lefel 1  Saesneg dros  zoom   18.30-20.45 – Archebwch yma 

12/11/2024 Lefel 1  Cymraeg dros zoom 13.00-15.00 – Archebwch yma 

 

 2. SESIYNAU LEFEL 2  ar gyfer GWEINIDOGION 2024 (sesiwn diwrnod neu 2 bore)

Noder: mi fydd sesiynau gyda llai na 10 o fynychwyr yn cael ei ail drefnu. Ymddiheuraf am unrhyw anghyfleustra

Mae’r sesiynau hyfforddiant diogelu grwpiau bregus, lefel 2 ar gyfer gweinidogion a staff. Mae‘n orfodol i bob gweinidog o’r tri enwad a dylid ei hailadrodd o leiaf bob 4 blynedd. Maent i gyd yn rhithiol dros ZOOM.

Archebwch eich lle  yma  neu dilynwch  y dolenni wrth ymyl y sesiwn. 

Gweler ein holl sesiynau hyfforddiant yma  Interdenominational Safeguarding Panel Diogelu Cydenwadol event tickets from TicketSource. – ( gweinidogion angen bwcio lefel 2) 

 2024 

Dydd Mercher 11 Medi 2024 Sesiwn Saesneg wyneb yn wyneb yn y Llwyfan, Caerfyrddin 9.45-16.00 yma (Darperir cinio) a drefnwyd gan Undeb Bedyddwyr Cymru – yn agored i bawb Archebwch yma

Dydd Iau 12 Medi 2024 Sesiwn Gymraeg wyneb yn wyneb ( dim opsiwn Zoom)yn yr Halliwell, Caerfyrddin 9.45-16.00 Darperir cinio) Drefnwyd gan Undeb Bedyddwyr Cymru – yn agored i bawb Archebwch yma 

Dydd Mawrth 24ain o Fedi 2024 Saesneg 9.30- 3.45 sesiwn ar lein dros Zoom  – Archebwch yma 

Dydd Mer 4 Rhag a Iau 5ed Rhagfyr 2024, sesiwn Cymraeg Lefel 2 9:15AM – 12:30  Cwrs wedi’i rannu dros 2 fore ( bydd angen i chi fynychu’r ddwy sesiwn) – Archebwch yma

2025

Dydd Iau 9 Ionawr 2025 Sesiwn  Iaith Saesneg  Lefel 2  9.15-3.30 – Archebwch nawr

Dydd Mawrth 4 Chwefror 2025 Sesiwn Gymraeg  Lefel 2  9.15-3.30 – Archebwch nawr 

Dydd Mawrth 11 Mawrth a Dydd Mercher 12 Mawrth 2025,  Sesiwn Iaith Saesneg Lefel 2 9:15AM – 12:30 Cwrs wedi’i rannu dros 2 fore ( bydd angen i chi fynychu’r ddwy sesiwn) – Archebwch nawr

Dydd Mawrth 13 Mai 2025 Sesiwn Zoom Lefel 2 Iaith Gymraeg  9.15-3.30 – Archebwch nawr 

 

 

3. SESIYNAU CYDLYNYDD DIOGELU LLEOL  newydd yn 2024

Bydd y sesiwn 2.5 awr hon yn canolbwyntio ar rôl cydlynydd diogelu a’r elfennau ymarferol y dylai’r eglwys leol rhoi ar waith i sicrhau ei bod nhw’n diogelu grwpiau bregus yn effeithiol. Bydd y sesiwn yn cynnwys polisi, recriwtio mwy diogel a DBS a chadw cofnodion.  Ni fydd ffocws ar arwyddion a symptomau o gam-drin ac esgeulustod.  Mae hyn yn cael ei drafod yn fanylach yn y sesiynau hyfforddi lefel 1 a 2.

 

1/10/24  Nos Fawrth  6.30-9.30 pm  (Saesneg ZOOM) – Book here