CYFFES FFYDD

Croeso i dudalen Cyffes Ffydd

Lluniwyd a mabwysiadwyd ein Cyffes Ffydd, yn 1823. Mae’n dilyn patrwm Eglwysi Diwygiedig eraill, ac yn arbennig Cyffes Wesmenstr, tra bod yr eirfa yn dibynnu’n helaeth ar gymalau o fewn Hyfforddwr a Geiriadur Beiblaidd Thomas Charles. Wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf crynhowyd hanfodion ein credo mewn Datganiad Byr ar Ffydd a Buchedd, ac yna mewn cyfres o Erthyglau Datgeiniol a gorfforwyd oddi mewn i Ddeddf y Methodistiaid Calfinaidd neu Eglwys Bresbyteraidd Cymru 1933.

Cliciwch ar y lluniau isod i ddarllen rhannau o’n Cyffes Ffydd