CYFLEON SWYDDI
EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU
Eglwys Bresbyteraidd Siloh, Gelligroes
Gweinidog
Mae’r Eglwys Bresbyteraidd yn dymuno penodi Gweinidog i arwain yr Eglwys yn ei hymdrechion i dyfu’n ysbrydol ac i fynd â’r Newyddion Da i’r gymuned ehangach.
Oriau: 21 awr yr wythnos.
Contract: 3 blynedd, gyda’r 6 mis cyntaf yn gyfnod prawf.
Cyflog: £33,115–£35,064 pro rata, pwyntiau 31–35 ar raddfa gyflog EBC
yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.
Bydd cyfle i ymuno â Chynllun Pensiwn EBC.
Lleoliad: Mae’r swydd hon yn gyfuniad o weithio gartref ac o Eglwys Siloh yn bennaf, ond hefyd gwasanaethu eraill o bryd i’w gilydd.
Mae’r swydd hon yn amodol ar ddatgeliad DBS manwl a dau eirda boddhaol.
Mae Gofyniad Galwedigaethol Cristnogol yn berthnasol i’r swydd hon.
Am ragor o wybodaeth ac am ffurflen gais, cysylltwch â:
e-bost – swyddfa.office@ebcpcw.cymru Ffôn – 02920 627465
Dyddiad cau: 4.00pm, 3 Hydref 2026
Y Weinidogaeth
Am wybodaeth ynglŷn â bod yn weinidog gyda ni, ewch i’r dudalen Hyfforddiant neu cysylltwch â’r Cyd-lynydd Hyfforddiant.
Ymweld â’r gweithle arfaethedig
Mae croeso i unrhywun sydd â diddordeb mewn ymgeisio am swydd gydag EBC i ymweld â’r gweithle arfaethedig am sgwrs anffurfiol cyn gwneud cais. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar yr hysbyseb perthnasol
Dylid dychwelyd ffurflenni cais i Swyddfa Ganolog EBC, Capel Tabernacl, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 1DD neu swyddfa.office@ebcpcw.cymru oni nodir yn wahanol.