Cliciwch yma i weld yr holl rifynnau ac i brynu ar-lein
Prif amcan Y Traethodydd yw cynnig ymdriniaethau ar rychwant o bynciau sy’n ymwneud â ‘diwylliant’, a deall y gair hwnnw mewn ystyr eang i gynnwys gwead syniadol a deallusol cymdeithas. Y mae’r cylchgrawn wedi llwyddo erioed i fod yn amserol ac yn gyfoes mewn ystyr wirioneddol yn ei drafodaethau ar lenyddiaeth, crefydd a’r celfyddydau.
Cyfraniad at drafod pynciau amrywiol mewn ffordd ddeallus yw adolygiadau sylweddol a safonol ac y mae’r Traethodydd erioed wedi rhoi lle amlwg i adolygu llyfrau; a hyn oll mewn arddull sy’n apelio at y ‘darllenydd cyffredin’. Ers dros gan mlynedd y mae’r cylchgrawn wedi bod yn cyfrannu’n gyffredinol eang at y bywyd deallusol Cymraeg.
Un o nodweddion Y Traethodydd yw amrywiaeth ei gynnwys. Yn ogystal â nifer o adolygiadau, mae pob rhifyn yn cynnwys tair neu bedair o erthyglau ar amrywiaeth o bynciau. Mewn rhifynnau diweddar cafodd rhai o glasuron llên Cymru eu hail-ystyried o’r newydd a daeth ein hanes hefyd dan y chwyddwydr. Y mae materion gwyddonol yn cael eu hystyried, arbennig berthynas crefydd a gwyddoniaeth, a hefyd faterion moesegol a diwinyddol cyfoes. Y mae cyfle am ‘ddialog’ ar dudalennau’r cylchgrawn a chroesewir ymateb i erthyglau.
Cyhoeddir Y Traethodydd gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.
O mis Gorffennaf 2019 ymlaen Gwasg Gomer, Llandysul, fydd yn argraffu ac yn dosbarthu’r Traethodydd, a gellir ei archebu ar lein trwy gyfrwng gwefan newydd Y Traethodydd neu siop ar lein Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech drafod Y Traethodydd, mae croeso i chi gysylltu â:
![]() | |
Golygydd Y Traethodydd Yr Athro D. Densil Morgan Y Gilfach Ffordd y Gogledd Llanbedr Pont Steffan SA48 7AJ. d.d.morgan@uwtsd.ac.uk |
Gallwch hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf a chysylltu â ni drwy ddilyn Y Traethodydd ar gyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter @YTraethodydd.