Cynhadledd Adeiladau

‘Beth yw ystyr y meini hyn?’
Cynhadledd undydd ar y defnydd o’n hadeiladau
Dyna gwestiwn a ragwelodd Josua, olynydd Moses ac arweinydd yr Israeliaid, y byddai cenedlaethau’r dyfodol yn ei ofyn wrth iddyn nhw sylwi ar y cerrig oedd wedi eu pentyrru ar ochr yr Iorddonen. Tystiolaeth oedd y rhain o waith achubol Duw yn eu harwain allan o’r Aifft, croesi’r Môr Coch a’r Iorddonen (Josua 4:6).
Mae Cymru yn cael ei hadnabod fel gwlad yn llawn o gestyll a chapeli. Symbolau o orthrwm a gwrthryfel yw’r cestyll, ond mae’r capeli a’r adeiladau eglwysig o bob enwad yn dystiolaeth o waith yr Arglwydd ar hyd y cenedlaethau yn galw pobl ato’i hun mewn cymunedau ar hyd a lled ein gwlad.
Ceisio ateb y cwestiwn a osododd Josua fydd y gynhadledd a drefnir gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru yng nghapel Gloddaeth, Llandudno, ar 2 Ebrill, yn ein cyfnod ninnau o newid cymdeithasol a chymunedol, a llawer o’n hadeiladau’n tystio i gyfnod arall yn hanes ein gwlad. Byddwn yn gofyn ‘Beth yw ystyr y meini hyn heddiw?’ a hynny mewn cynhadledd undydd fydd yn cynnwys nifer o gyfweliadau ac anerchiadau byrion. Bydd o leiaf 15 o unigolion yn siarad o brofiad am y gwaith o gynnal adeiladau, codi gwaith newydd, defnyddio mannau cymunedol a datblygu adeiladau crefyddol at ddefnydd cymunedol.
Clywn gan yr hanesydd Eryn White am ddyheadau’r bobl a gododd yr adeiladau hyn, a bydd Ieuan Wyn Jones yn sôn am addasu hen adeilad at ddefnydd cymunedol. Pwysigrwydd adeiladau mewn cymunedau ar sail ei brofiad fel ymgyrchydd iaith fydd pwnc Dafydd Iwan, a bydd Neil Kirkham yn siarad ar ran y criw yn Llandudno sydd wedi addasu capel Gloddaeth. Rhoddir sylw hefyd i faterion amgylcheddol, diwallu anghenion cymdeithasol, plannu gwaith newydd a defnyddio hen adeiladau at ddibenion newydd. Bydd cynrychiolwyr o fudiadau fel Housing Justice Cymru, CADW a’r Comisiwn Elusennau yno i rannu o’u profiad a’u harbenigedd.
‘Rydym yn wir yn edrych ymlaen at y gynhadledd hon wrth inni edrych yn greadigol ac yn ymarferol ar yr adeiladau sydd wedi eu gadael inni yn waddol gan ein rhieni. A’n bwriad yw gweld pa gyfleoedd maen nhw’n eu cynnig inni heddiw fel eglwys.’ Nan Powell-Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol EBC.