Disgrifiad
Rhifyn Hydref 2026 o’r Traethodydd
Pyrth hardd Eglwys Sant Silyn, Wrecsam, sydd ar glawr rhifyn diweddaraf Y Traethodydd, a’r llun yn cysylltu ȃ phrif erthygl y rhifyn, sef ymdriniaeth afaelgar Eryl Wynn Davies ȃ bywyd a chyfraniad yr ysgolhaig beiblaidd C. H. Dodd. Er i lawer gyfeirio ato fel diwinydd Seisnig, Cymro oedd Dodd, wedi’i eni a’i fagu yn nhref Wrecsam (fel yr oedd bryd hynny) ac yn hynod falch o’i dras. Cawn ddarlun cryno ohono, o’i gefndir yng nghapel yr Annibynwyr Saesneg ym Mhen-y-bryn, ei addysg yn Rhydychen, yn y Clasuron yn gyntaf ac yna mewn Diwinyddiaeth, ei flynyddoedd cynnar fel gweinidog Annibynnol yn Warwick, ei benodi i staff Coleg Mansfield, Rhydychen, ac yna ei ddyrchafu i Gadair y Testament Newydd ym Mhrifysgol Manceinion, ac wedyn yn Athro Diwinyddiaeth yng Nghaer-grawnt. Sonnir am ei gyfraniad i’n dealltwriaeth o’r Testament Newydd, o ddamhegion yr efengylau, y pregethu apostolaidd yn Llyfr yr Actau, syniadaeth gyfoethog yr Apostol Paul, hyd at ei weithiau mawr ar Efengyl Ioan. Cawn wybod hefyd am ei gyfraniad fel cyfarwyddwr y New English Bible a natur ei ddealltwriaeth o awdurdod yr Ysgrythur. Traddodwyd y ddarlith sy’n sail i’r ysgrif ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r fro 2025, ac mae’n cloi trwy gyfeirio at Gymreictod Dodd, a’i wybodaeth o’r Gymraeg yn taflu goleuni ar rai o eiriau ac ymadroddion y testun beiblaidd. Bydd darllenwyr Cenn@d yn cael blas rwy’n siŵr ar yr ysgrif ddiddorol hon.
Dau o lenorion mawr yr ugeinfed ganrif sef y nofelwraig Kate Roberts ac R. Williams Parry, ‘Bardd yr Haf’, yw themâu’r ddwy ysgrif nesaf, Yn yr un gyntaf ohonynt, mae Arwel Vittle a Gwen Angharad Gruffydd yn parhau gyda’u hysgrif y cafwyd y rhan gyntaf ohoni yn y rhifyn diwethaf, o ymwneud Kate Roberts ȃ Phlaid Cymru. Bu hi’n aelod o’r Blaid Genedlaethol o’i dyddiau cynnar, a hynny am resymau diwylliannol yn fwy na rhai gwleidyddol fel y cyfryw. Stormus oedd ei pherthynas ȃ hi, yn neilltuol o’r 1960au ymlaen, ond cadwodd yn driw iddi trwy’r cyfan. Yn yr ysgrif ganlynol mae Rosie Dymond yn trafod yr heriau i drosi barddoniaeth Williams Parry i’r Saesneg yn un peth er mwyn rhannu cyfoeth ein diwylliant ȃ’r di-Gymraeg. A hithau wedi dod at yr iaith fel oedolyn, mae’n hynod ymwybodol o anawsterau pob cyfieithu. Ond mae’n werth trosi gwaith Williams Parry, meddai, am fod ei weledigaeth ynghylch natur yn medru siarad yn rymus ȃ’n hofnau ecolegol cyfoes. Gwych o beth yw medru cynnwys y ddwy erthygl gyfoethog yma.
Yn ei ysgrif ef mae Gwynn Matthews yn cymharu a gwrthgyferbynni dau Gymro mawr o’r ddeunawfed ganrif, sef yr athronydd y Dr Richard Price, a chymeriad llawer mwy cyfarwydd i’r rhan fwyaf ohonom, sef Williams Pantycelyn. Bu’r ddau ohonynt yn weinidogion, roedd y ddau yn hanu o siroedd y de, Morgannwg yn achos Price a Sir Gȃr yn achos Williams, a’r ddau wedi’u haddysgu yn Academi Ymneilltuol Llwyn-llwyd. Ond yno mae’r tebygrwydd yn darfod. Ariad o ran cred oedd Price, yn gwadu cyflawn dduwdod Crist, a fu’n byw yn Llundain gan gyfrannu fel athronydd at waddol diwylliant Lloegr, tra mai Methodist uniongred oedd Williams, yn emynydd ac yn awdur rhyddiaith, a arhosodd yng Nghymru gan adel ei farc ar y diwylliant Cymraeg. Cynnyrch Aroleuo’r ddeunawfed ganrif oedd y naill fel y llall, ond dwy agwedd wahanol o’r mudiad eang hwnnw. Gwelir y ddwy agwedd yn glir yn yr ysgrif hon, sy’n ein hatgoffa eto o’r amrywiaeth sy’n rhan o’n gwaddol ddeallusol.
Ac i gloi, y gwyddonydd y Dr Hefin Jones, yntau’n aelod o Fwrdd Golygyddol Y Traethodydd, sy’n tafoli cyfrol ddiweddar Ffion Mair Jones ar y polymath hwnnw Thomas Pennant, yntau hefyd yn un o wŷr y ddeunawfed ganrif. Rhwng popeth, felly, dyma rifyn cyfoethog arall o gylchgrawn llenyddol hynaf Cymru.
Mewn cyfarfod pwysig o dan lywyddiaeth yr Archdderwydd Mererid ar faes Eisteddfod y Garreg Las a oedd yn cynnwys cyfraniad gan y newyddiadurwr Dylan Iorwerth a chrynhoad hanesyddol gan y Dr Eryn White, cafwyd ymgais i godi proffil Y Traethodydd a denu cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Yn ysbryd y cyfarfod hwnnw, anogwn ffyddloniaid Cenn@d nid yn unig i ddarllen Y Traethodydd a’i hyrwyddo ymhlith eu cydnabod, ond i’w brynu a’i archebu. Gellir gwneud hynny trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am fanylion ynghylch ei archebu, cysylltwch â Rhian Melhuish (rhian.melhuish@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.



