Siop

Y Traethodydd: Ionawr 2025

£6.00

Categorïau: ,

Disgrifiad

Rhifyn Ionawr 2025 o’r Traethodydd

Arlwy lawn a ddiddorol iawn sydd gennym ar gyfer darllenwyr Y Traethodydd yn rhifyn cyntaf y flwyddyn newydd. O ran y deunyddiau creadigol, ceir tair cerdd nodweddiadol heriol gan Aled Jones Williams, bardd sydd wedi cael clod yr archesgob Rowan Williams ȃ’r beirniad llenyddol M. Wynn Thomas fel y mwyaf mentrus o’n beirdd cyfoes. ‘duw’ – heb y brif lythyren – yw teitl y tair cerdd fel ei gilydd, a hynny’n rhoi awgrym o’u thema. Dilynir nhw gan stori fer dyner iawn gan lenor creadigol medrus arall, sef y bardd a’r storïwr John Emyr o Gaerdydd.

O droi o’r creadigol at y dadansoddol, ceir ail ran astudiaeth ddifyr Llion Wigley o hamddena ac o ffasiynau deallusol ieuenctid Cymru rhwng y ddau rhyfel byd. Tynged pob cenhedlaeth yw adweithio yn erbyn ei hynafiaid, tra bod llanciau a llancesi pob oes yn credu mai nhw yw’r unig rai erioed i brofi  o lesmair ieuengrwydd. Fel y gwelwn o’r astudiaeth hon, roedd ein hen neiniau a’n hen deidiau ninnau yn ifanc unwaith. Ceir hefyd ddwy ysgrif arall o duedd hanesyddol, eiddo’r golygydd ar y Canon John Pryce, deon Bangor, a rhan gyntaf  pennod ddadlennol Gruffydd Aled Williams ar Walter Brut, y Lolard o’r gororau a oedd yn un o ddilynwyr selocaf Owain Glyndwr. Yr Athro Williams yw’n harbenigwr pennaf ar fywyd y gwladweinydd o Sycharth, a da cael gwybod mwy am ymwneud Walter Brut ag ymgyrchoedd Glyndwr. Bydd ail ran yr ysgrif yn ymddangos yn y rhifyn nesaf.

Bydd llawer iawn os nad pawb o garedigion ‘Y Pethau’ yn cael budd a difyrrwch o ddyddiadur hynod Derec Llwyd Morgan, ‘Dyddlyfr Prifathro wrth ei Ewyllys’. ‘Yr wyf yn ysgrifennu’r nodyn hwn ddeng mlynedd ar hugain er pan gefais fy mhenodi’n Brifathro Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth’, meddai wrth gyflwyno ysgrif sy’n rhannu ȃ ni gynnwys dyddiadur a gadwodd yn ysbeidiol rhwng 1995 a 2005. ‘Tybiais y byddai detholiadau ohono’n ddiddorol a derbyniol i rai darllenwyr, os weithiau’n boenus i mi’. Wel ie, debyg iawn! Cewch yma ddarn tra darllenadwy o hanes Cymru diwedd y ganrif o’r blaen, a golwg newydd ar ddigwyddiadau yn un o’n sefydliadau cenedlaethol pwysicaf. Byddwch yn adnabod llawer o’r cymeriadau y crybwyllir eu henwau, a chael eich diddanu a’ch goleuo wrth ddarllen yr hanes. Gobeithio yn wir y bydd yr awdur yn gyrru atom ddetholiad arall o’r dyddiadur cyn bo hir.

Yn dilyn hynny ceir adolygiad Rhys Llwyd, y gweinidog ifanc o Gaernarfon sydd wedi gwneud gwaith ymchwil helaeth ar seiliau cenedlaetholdeb modern, ar y gyfrol Gobaith, Gras a Gogoniant: Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng Ngwaith Emrys ap Iwan.

Anogwn ffyddloniaid Cenn@d unwaith eto nid yn unig i ddarllen Y Traethodydd ond i’w brynu a’i archebu. Gellir gwneud hynny trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am fanylion ynghylch ei archebu, cysylltwch â Joanna Thomas-Wright (joanna.thomas-wright@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.