Disgrifiad
Beth petai Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ei ffyniant a’i goruchafiaeth wedi cael y blaen ar Loegr, a’r cyfle i bwyso cyflwr ei haddysg a’i moesau yn y glorian a’u cael yn brin? Yn ei ysgrif ddifyr a ffantasïol ‘Y Llyfrau Gwyrddion’ yn rhifyn Mis Ebrill o’r Traethodydd, dyna’n union mae’r awdur Glan Adda yn ei wneud. Yn hytrach na Lingen, Symons a Vaughan Johnson, comisiynwyr gwreiddiol y Llyfrau Gleision ym mrad enwog 1847, Ieuan Gwynedd, R. J. Derfel ac Iorthyn Gwynedd yw’r tri a benodwyd gan Gomisiwn o Gymry radicalaidd, Ymneilltuol a Chymraeg, i archwilio ‘cyflwr Addysg, Moes a Diwylliant ymhlith ein cymdogion y Saeson’, ac mewn llythyr ar Wilym Hiraethog, mae Ieuan Gwynedd (yn erthygl Glan Adda) yn sôn am yr hyn a ddigwyddodd.
Os hoffwch wybod sut yr aeth y tri chomisiynydd at eu gwaith, a’r math o gwestiynau a holwyd i feistri Prifysgol Rhydychen ac athrawon ysgolion bonedd fel Winchester a Rugby, darllenwch yr ysgrif goeglyd hon! Os oes elfen o’r absẃrd yn y syniad o dafoli diwylliant Lloegr wrth safonau’r Gymru Ymneilltuol ffyniannus Oes Victoria, gyda Brad y Llyfrau Gleision (o droi’r peth o chwith),
dyna mewn gwirionedd a wnaed. Mae trasiedi yn y doniolwch, ond doniol yn bennaf yw’r cyfraniad ardderchog a gogleisiol hwn. Faint ohonom, tybed, a fyddai’n gwerthfawrogi agwedd biwritanaidd y comisiynwyr at y gêm ryfedd ac anwar a chwaraewyd yn ysgol Rugby ac a fyddai’n cael ei mewnfudo i Gymru lân gyda hyn? Darllenwch i chi gael gweld.
Yn ei hysgrif ‘ “Fuoch chi yng Nghwm Alltcafan?” T. Llew Jones Bardd y Plant Bach a’r Plant Mawr’, mae Mererid Hopwodd yn troi oddi wrth sylwebyddion Oes Victoria at un o lenorion mwyaf poblogaidd y ganrif o’r blaen a dechrau’r ganrif hon, sef T. Llew Jones. I nodi canmlwyddiant ei eni, trin barddoniaeth y llenor amryddawn a wna, nid yn unig ei farddoniaeth i blant ond ei farddoniaeth i bawb o bob oed. Anwyldeb a boneddigeiddrwydd yw rhai o’r ansoddeiriau a ddefnyddir i sôn am T. Llew, ond mewn astudiaeth hynod graff mae Mererid yn dangos dwyster ei awen a’i hamlochredd. Gyda hynny, y ceir ganddi adolygiad campus o’r casgliad cerddi a olygwyd gan Idris Reynolds, sef Y Fro Eithinog: Casgliad o gerddi T. Llew Jones.
Sawr mwy gwleidyddol sydd ar ddau gyfraniad arall, sef ail ran astudiaeth J. Grahame Jones o hanes y Cynulliad Cenedlaethol ac ymdriniaeth estynedig Walford Gealy â chyfrol deyrnged Merêd, sef y diweddar Ddr Meredydd Evans. Yn ‘Ymgyrch Senedd i Gymru, 1987-2011, ii: Datblygiadau’r Degawd Cyntaf’, mae hanesydd yr ymgyrch yn trafod yn fedrus ac yn olau y troeon a fu rhwng sefydlu’r Cynulliad a refferendwm 2011 a sicrhaodd bwerau deddfwriaethol amgenach i’r sefydliad. Agweddau ar ein hunaniaeth genedlaethol a geir yn y ddau gyfraniad, gyda Walford Gealy yn trafod agweddau ar y gyfrol Hawliau Iaith, sef y teitl a roed i’r gyfrol deyrnged a gyhoeddwyd yn y gyfres Astudiaethau Athronyddol o dan olygyddiaeth E. Gwynn Matthews. Mae’r ddwy ysgrif yn gyfraniad cyfoethog at y drafodaeth ddiwylliannol-wleidyddol yn y Gymru gyfoes.
Ymhlith ein hadolygwyr yn y rhifyn hwn yw Brynley F. Roberts sy’n trafod Thomas Charles o’r Bala; mae E. G. Millward yn trin fersiwn newydd o’r Dreflan gan Daniel Owen, Dyfed Elis-Gruffydd yn tafoli llyfr taith gan Aled Lewis Evans a’r Archdderwydd John Gwilym yn rhannu ei sylwadau ar Gofiant Waldo gan Alan Llwyd ynghyd â’r casgliad cerddi a olygwyd gan yr awdur a’i gyd-ysgolhaig o Brifysgol Abertawe, sef Robert Rhys. Da hefyd yw croesawu cyfraniad gan awdur newydd, sef Dr Rhiannon Heledd Williams o Brifysgol De Cymru, arbenigwr ar lên Gymraeg yr Unol Daleithiau, sy’n adolygu cyfrol Eirug Davies, Y Winllan Well: America’r Cymry. Hynny, ynghyd â cherdd gan Nest Lloyd, sy’n sicrhau fod y rhifyn hwn o’r Traethodydd yn un cyfoethog iawn.
Dyma’r ail rifyn o dan olygyddiaeth yr Athro D. Densil Morgan, Llanbedr Pont Steffan, gyda chymorth yr Athro Mererid Hopwood, Dr T. Hefin Jones, Dr A. Cynfael Lake a Dr Eryn M. White.