Siop

Y Traethodydd: Rhifyn Ebrill 2018

£4.00

Rhifyn Ebrill 2018

10 mewn stoc

Disgrifiad

Llun gan yr artist Walter Sickert sydd ar glawr rhifyn diweddaraf Y Traethodydd, llun hardd o’r enw ‘Y Fodrwy’ sy’n dangos fod Sickert yn medru creu darluniau tlws, hardd a thrawiadol. Roedd iddo, fodd bynnag, ochr dywyll, a hynny yw pwnc ysgrif Ifor ap Gwilym sy’n olrhain y cysylltiadau Cymreig nid yn gymaint yn ei waith ond yn ei fywyd. Nid yn aml mae ysgrifau’r Traethodydd yn mynd ar ôl y macabre, nac yn gyrru cryd ar hyd eich meingefn, ond darllenwch ‘Y Gelligoch a’r Gothig: hanes arswyd o Oes Victoria’, er mwyn cael eich atgoffa am wedd arall ar fywyd gwŷr amlwg yr oes o’r blaen!

Mae gweddill arlwy rhifyn Mis Ebrill yn rhedeg ar hyd llinellau mwy syber. Yn ei ysgrif ‘Pamffledi Heddychwyr Cymru: Adeiladu’r Gymdeithas Amgen yn y 1940au’, mae Llion Wigley yn cwblhau ei astudiaeth o basiffistiaeth adeg yr Ail Ryfel Byd, astudiaeth y cyhoeddwyd ei rhan gyntaf yn rhifyn Ionawr. J. Gwyn Griffiths, ei wraig Kathe Bosse Griffiths ynghyd â’u cyfaill Pennar Davies yw’r thema’r tro hwn, sef y Cristnogion anarchaidd-radicalaidd a berthynent i ‘Gylch Cadwgan’ gan gyfrannu cryn asbri i’r mudiad cenedlaethol yn eu dydd. Mae’n syn darllen pa mor gyfoes yw eu cenadwri yn yr oes ryfelgar hon. O ran ysgrifennu creadigol, ceir stori fer ddifyr a meddylgar gan Dafydd Ifans o dan y teitl ‘Pum Munud mewn Oes’. Yna, mae Elfed ap Nefydd Roberts yn mynd â ni i un o feysydd ei arbenigedd, sef gweddi a’r bywyd defosiynol. ‘Cynnal ysbrydolrwydd’ yw teitl twyllodrus o syml ysgrif sy’n gyfoethog eithriadol o ran ei chynnwys ac sy’n ffrwyth profiad helaeth a doethineb mawr.

Ac yn dilyn hynny ceir traethiad yr un mor gyfoethog gan y Dr Tom Davies, y meddyg o Gaerdydd, ar y seicolegydd Ernest Jones, cofiannydd Sigmund Freud, a’r gŵr a briododd un o forynion trasig y genedl, sef Morfydd Llwyn Owen. ‘Bu farw Morfydd Llwyn Owen ar 7 Medi 1918, yn ei hugeiniau diweddar’, meddai Dr Davies.

Nid oes gennyf y gallu na’r awydd i drafod ei gwaith fel cerddor. Er hynny, mae’r ffordd y bu hi farw o ddiddordeb i mi. A hynny am fod ei gŵr wedi ei gyhuddo o fod â rhan yn y digwyddiadau a arweiniodd at ei thranc. Fy ngobaith wrth ysgrifennu’r papur hwn yw ceisio unioni’r cam a wnaed ag ef heb i mi ddiystyru ei wendidau.

Fel gydag ysgrif Ifor ap Gwilym, darllenwch hon er mwyn cael gweld trosoch eich hunain!

Yn dilyn dathliadau Williams Pantycelyn y llynedd, ofn rhai oedd bod ffigyrau mawr eraill yn mynd i gael eu hanghofio. Mae’n dda, felly, darllen ymdriniaeth Gruffydd Aled Williams â champwaith James Pierce, awdur newydd yn y byd Cymreig, ar fywyd a gwaith William Salesbury, yr ysgolhaig o Ddyffryn Clwyd a chyfieithydd Testament Newydd 1567. Mae’r golygydd yntau yn crybwyll gwaith Salesbury yn ei ysgrif: ‘Martin Luther, William Salesbury a Griffith Jones, Llanddowror: Etifeddiaeth y Diwygiad Brotestannaidd, 1517 – 2017’, sef sylwedd darlith flynyddol Prifysgol Cymru a draddodwyd ar faes y brifwyl y llynedd. Ond nid yw Pantycelyn chwaith yn cael cam. Cymwynas gan yr Athro E. Wyn James oedd crynhoi ynghyd ysgrifau Saesneg y diweddar H. A. Hodges – cyfaill y Canon A. M. Allchin – ar emynyddiaeth Gymraeg, ac mae Rhidian Griffiths yn talu sylw i’r gyfrol Flame in the Mountains: Williams Pantycelyn, Ann Griffiths and the Welsh hymn, essays and translations by H. A. Hodges (Y Lolfa, 2017), tra bod Aled Edwards, yntau yn frodor o Drawsfynydd, yn adolygu cyfrol Robin Gwyndaf Cofio Hedd Wyn: Atgofion Cyfeillion a Detholiad o’i Gerddi (Y Lolfa, 2017). Mae R. Gwynedd Parry hefyd yn adolygu bywgraffiad swmpus a phwysig D. Ben Rees, sef Cofiant Cledwyn Hughes: Un o Wŷr Mawr Môn a Chymru (Y Lolfa, 2017).