Siop

Y Traethodydd: Rhifyn Ebrill 2019

£4.00

Rhifyn Ebrill 2019

16 mewn stoc

Disgrifiad

Arwyddair teulu’r ysgolhaig Humphrey Llwyd (1527-68) oedd ‘hwy peri clod na golud’, ac yn yr ysbryd hwnnw y dethlir ei gyfraniad, a chyfraniad rhai o’i gyfoeswyr, yn rhifyn diweddaraf Y Traethodydd, cylchgrawn chwarterol y diwylliant Cymraeg. Hynafiaethydd, gwneuthurwr mapiau, hanesydd ac aeleod yn senedd gyntaf y frenihines Elisabeth oedd Llwyd, ac un o ddyneiddwyr pennaf ei gyfnod.

Cysylltiad Llwyd a’r llenor enwog Polydore Vergil yw pwnc E. Gwynn Matthews mewn traethiad hynod ddifyr o dan y teitl ‘Humphrey Llwyd a’r Eidalwyr’, tra bod Gruffydd Aled Williams yn troedio tir mwy cyfarwydd i’r rhan fwyaf ohonom mewn ysgrif yr un mor gyffroes, ac yn bosibl yn fwy dadleuol, sef ‘ “Ail Dewi Mynyw”: Golwg Newydd ar Richard Davies’. Esgob Tyddewi oedd Richard Davies (1501-81), awdur y llythyr enwog ‘at y Cymry’ sy’n rhagymadrodd i Destament Newydd William Salesbury 1567, ac yn dadlau mai Protestaniaeth oedd Cristnogaeth gynharaf Cymru cyn ei llygru dan ddylawad Awstin o Gaer-gaint, apostol y Saeson. Arwr yw Davies i lawer ohonom, ond da darllen ambell i gwestiwn dreiniog a dadleuol a gyfyd yn y traethaid cyfoethog hwn. Un arall o’n hysgolheigion cyfoes, sef Ceri Davies sy’n traethu ar waith Syr Siôn Prys (bu farw 1581), awdur y llyfr Cymraeg cytaf mewn print sef Yn Y Llyfr Hwn, ond yn bwysicach yn y cyd-destun yma, ei waith Lladin Historiae Britannicae Defensio, ‘Amddiffyniad Hanes Prydain’. Rhwng popeth dyma wledd o ysgrifau sydd, yn ogystal â bod yn gyfraniad at ysgolheictod, yn tynnu sylw darllenwyr cyffredin at gyfnod hynod bwysig yn hanes y diwylliant Cymraeg.

Yn osgystal â’r tair ysgrif hon sy’n canoli ar y cyfnod modern cynnar, mae’r awdur ifanc Gareth Evans-Jones o Brifysgol Bangor yn rhannu ei wybodaeth arbenigol ar hanes y Cymry yn America’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’u lle yn yr ymgyrchu tanbaid o blaid rhyddhau’r caethion. Trafod y cylchgrawn Y Dyngarwr a olygwyd gan y Parchg Robert Everett, a fu unwaith yn weinidog Annibynnol ar gapel Lôn Swan yn Ninbych, a wna, ond a wnaeth gyfraniad aruthrol at yr ymgyrch rhyddhad wedi iddo ymfudo i’r ‘wlad newydd’.

Pan fo elfennau adweithiol, atgas ac asgell dde yn dod i’r golwg yn yr America gyfoes, mae’n dda cael ein hatgoffa am y pwerau o blaid tegwch a gwareiddiad afu yno ar un adeg yn y gorffennaol, a chyfraniad goleuedig rhai o’n cyd-Gymry iddynt.