Disgrifiad
Yn rhifyn presennol Y Traethodydd ceir amrywiaeth o ddeunyddiau a fydd yn sicr o ennyn sylw pawb sy’n ymddiddori yn syniadaeth a diwylliant y Gymru gyfoes. Yn y gyntaf o ddwy erthygl mae Megan Williams yn cyflwyno prif deithi’r ddiwinyddiaeth ffeministiaeth yn neilltuol fel mae’n ymwneud â thestun y Beibl. ‘O’r Cysgodion: Golwg Feirniadol ar Ddarlun
y Beibl o’r Ferch’ yw teitl ei hysgrifau, ac mae’n dangos yn ddeheuig ac yn eglur fel mae rhagdybiaethau gwrywaidd darllenwyr y Beibl wedi amodi eu hymateb i gynnwys yr ysgrythurau, yr Hen Destament a’r Newydd. Gan fynd a ni nôl at rai hanesion cyfarwydd ac anghyfarwydd, mae’n eu hail-ddehongli mewn modd mwy cynhwysfawr, ac yn cynnig ar yr un pryd arweiniad cryno i gasgliadau mwyaf pwysig y feirniadaeth feiblaidd ffeministaidd.
Bydd llawer o ddarllenwyr cylchgronau fel Y Traethodydd a Barn yn cofio am gyfraniad y diweddar Alwyn D. Rees i ymgyrch yr iaith yn chwedegau a saithdegau y ganrif o’r blaen, ac eraill yn gwybod am ei gyfraniad mawr i wyddor cymdeithaseg ac ethnoleg trwy ei astudiaeth arloesol o Lanfihangel yng Ngwynfa, Life in a Welsh Countryside. Mewn ysgrif gofiannol hynod ddiddorol, mae M. Wynn Thomas, ei nai, yn rhoi golwg mwy personol a phreifat ar ffigur cyhoeddus amlwg yn ei ddydd, ac yn tafoli ei gyfraniad yn ogystal. Mae hon yn ysgrif a fydd yn siŵr o ddenu sylw pawb sy’n ymddiddori yn hanes y mudiad cenedlaethol a datblygiad cenedlaetholdeb yr ugeinfed ganrif.
O ran cenedlaetholdeb yr unfed ganrif ar hugain, a thynged Cymru wyneb yn wyneb â her y dyfodol, mae John Glyn yn cynnal trafodaeth ar waith Simon Brooks, y mwyaf creadigol o’n meddylwyr cyfoes. Yn yr ysgrif ‘Pam na Fu Cymru?’, yn seiliedig ar gyfrol ddiweddar Brooks, mae’r awdur yn tafoli ei dadansoddiad o hanes y Gymru gyfoes, a thra yn cytuno â llawer o’r hyn mae’n ei ddadlau, mae’n cynnig hefyd ei atebion ei hun. Bydd eraill, mae’n siŵr, ag awydd i ymuno yn y drafodaeth bwysig hon.
Yn ogystal â’r uchod mae’r beirniad T. Robin Chapman yn trafod delwedd yr hafod yn llên y Gymru fodern, tra bo’r diwinydd John Heywood Thomas yn dwyn i gof gyfraniad Ian Ramsay, un o feddylwyr mwyaf miniog ei genhedlaeth ym myd diwinyddiaeth ac athroniaeth.
Un cyfraniad a fydd yn ennyn diddordeb pawb yw adolygiad y diweddar Gwyn Thomas ar gyfrol gerddi Mererid Hopwood, Nes Draw. Yn deyrnged un bardd mawr i fardd mawr arall, dyma un o’r pethau olaf i Gwyn Thomas ei lunio cyn ei farw yn gynharach eleni. Mae hyfrydwch personoliaeth unigryw y diweddar Gwyn Thomas yn pefrio drwy’r adolygiad ar ei hyd. Adolygwyr eraill y rhifyn yw John Roberts ar nofel Mari Lisa Veritas enillydd Gobr Daniel Owen, Christine Jones ar nofelau Gwen Parrot ac Eiddwen Jones, ac Elwyn Richards ar gyfrol D. Densil Morgan, Y Deugain Mlynedd Hyn.