Disgrifiad
Williams Pantycelyn piau sylwedd rhifyn Gorffennaf o’n prif gylchgrawn diwylliannol Cymraeg, Y Traethodydd. Nid y Pantycelyn y gwyddom oll amdano, yr emynydd, y bardd a’r marwnadwr, arweinydd y seiadau, y pregethwr teithiol, ‘clerwr y nef’ yn unig, ond y Pantycelyn hwnnw oedd â diddordeb ysol mewn pynciau gwyddonol – gogoniant creadigaeth Duw – yn ogystal â lledaenu’r newydd da am Iesu a’i farwol glwy. Mewn ysgrif ysgolheigaidd ac eang ei rhychwant, mae Gruffydd Aled Williams yn sôn am y canu gwyddonol Cymraeg o gyfnod y Dadeni Dysg at gyfnod Pantycelyn ei hun.
Ymhlith yr awduron hysbys mae Edmwnd Prys a Siôn Dafydd Rhys, dyneiddwyr yr unfed ganrif ar bymtheg, ac yna Morgan Llwyd y piwritan o’r ganrif wedyn. Yr un enw anhysbys yw Bassett Jones, cyfoeswr i Llwyd a Chymro Cymraeg o Fro Morgannwg, a luniodd doreth o gerddi Saesneg ar bynciau gwyddonol, rhai ohonynt mewn cynghanedd gyflawn! Digon dyrys oedd y cyfeiriadau at y syniadaeth wyddonol ddiweddaraf. Mwy byth oedd y dryswch o’u cyfleu trwy’r gynghanedd. Dengys ei gynnyrch Cymraeg (prin) nad bardd o athrylith mohono, ond mae’n dda cael gwybod amdano. Amheuthun yw dychwelyd at Williams a’i ‘Golwg ar Deyrnas Crist’ sy’n dangos pa mor olau oedd y Pêr Ganiedydd yn y damcaniaethau gwyddonol
diweddaraf.
Mae awduron dwy ysgrif arall yn mynd i’r afael â defnydd Williams o’r Beibl. Yn y cyntaf o ddau gyfraniad (bydd y nesaf yn ymddangos yn rhifyn Medi) mae hanesydd y Methodistiaid, Eifion Evans, yn crynhoi agwedd Pantycelyn at awdurdod ac ysbrydoliaeth yr Ysgrythurau ac yn dangos fel y defnyddiodd y Beibl yn ei waith bugeiliol yn y seiadau ac wrth amddiffyn y ffydd Fethodistaidd rhag cyfeiliornadau’r cyfnod. Yna mae’r beirniad llenyddol Robert Rhys yn dangos defnydd y Pêr Ganiedydd o ddelweddau sy’n tarddu o un o lyfrau
rhyfeddaf yr Hen Destament, sef Cân y Caniadau neu Ganiad Solomon. I gloi y dathliad mae Dafydd Glyn Jones yn trafod campwaith dadleuol Saunders Lewis, Williams Pantycelyn (1927), cyfrol sydd wedi’i hailgyhoeddi yn ddiweddar gan Wasg Prifysgol Cymru. Fel y byddwch yn ei ddisgwyl gan awdur yr ysgrif, trafodaeth athrylithgar ar lyfr athrylithgar a geir yma.
Adolygir hefyd gyfrolau o bwys a ymddangosodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae Ceri Davies yn trafod helynt y Cymry a astudiodd ym Mhrifysgol Rhydychen ar hyd pedair canrif a mwy ar sail cyfrol R. Brinley Jones, Rhamant Rhydychen. Ceir sylwadau dadlennol y darlledwr, y newyddiadurwr a’r academig Eifion Lloyd Jones ar astudiaeth Elain Price, Nid Sianel Gyffredin Mohoni! Hanes sefydlu S4C. Mewn adolygiad hyfryd ar gyfrol hardd, mae Dyfed Elis-Gruffydd yn mynd â ni trwy olygfeydd ysblennydd Ceredigion yn sgil ffotograffiaeth drawiadol Iestyn Hughes yn Ceredigion wrth fy Nhraed, tra bod Llŷr Gwyn Lewis yn tafoli’n olau y gyfrol ingol, Dagrau Tost: cerddi Aber-fan, a olygwyd gan Wyn a Christine James. Rhwng popeth dyma rifyn eithriadol gyfoethog a diddorol.