Disgrifiad
Llun trawiadol Heledd Wyn Hardy o’r nofel Sgythia gan y diweddar Gwynn ap Gwilym sydd ar glawr rhifyn diweddaraf Y Traethodydd, cylchgrawn y diwylliant Cymraeg. Mae’n cyfeirio at adolygiad Dafydd Ifans o’r nofel, efallai’r nofel fwyaf sylweddol a gorchestol i’w chyhoeddi yn Gymraeg ers blynyddoedd. Bywyd a gwaith Dr John Davies o Fallwyd, yr ysgolhaig o’r ail ganrif ar bymtheg, yw thema’r nofel, ond mae’n ddarlun hynod nid yn unig o yrfa un o gymwynaswyr mwyaf y Gymraeg – y geiriadurwr a’r gramadegydd, awdur Llyfr y Resolusion a phrif gyfieithydd Beibl 1620 – ond mae’n astudiaeth seicoleg dreiddgar ac yn bortread sensitif a hanesyddol gywir o’r gwrthrych. Y trueni yw nid yw Gwynn ap Gwilym bellach yn fyw i dderbyn y clod am nofel mor odidog.
Gan barhau arfer Y Traethodydd o gyhoeddi llên greadigol yn ogystal â deunyddiau beirniadol a hanesyddol, cawn stori fer apocalyptaidd gan John Emyr sy’n ein hatgoffa pa mor fregus yw sefyllfa’r ddynolryw yn wyneb bygythiad newid hinsawdd, tra bo D. Ben Rees yn trafod cyfraniad Moelwyn, awdur ‘Fy Nhad o’r nef/ O gwrando’n cri’, a ‘Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn’, i fyd yr emyn. Yna, mewn astudiaeth gynhwysfawr, mae Ieuan Parri yn tafoli barn y beirniad llenyddol D. Tecwyn Lloyd ar un o fawrion llên yr ugeinfed ganrif, sef Saunders Lewis. Marcsydd ifanc oedd Lloyd pan ysgrifennodd yn erbyn ‘llenorion yr adwaith’, Ambrose Bebb, Gwenallt a Lewis, yn nyddiau’r rhyfel, a’u cyhuddo o bob math o ysgelerderau. Ymhen blynyddoedd cymedrolodd ei
farn, fel y dengys ei gofiant safonol i Lewis a gyhoeddodd yn 1988. Cefndir y datblygiad hwnnw a geir yn yr ysgrif hon, a fydd o wir ddiddordeb i’r rheini sy’n cofio Tecwyn Lloyd ac sy’n gwybod am aruthredd cyfraniad Saunders Lewis i fywyd Cymru’r ganrif o’r blaen.
Cawsom mewn rhifynnau cynharaf o’r cylchgrawn atgofion John Heywood Thomas am rai o feddylwyr mawr yr ugeinfed ganrif: Paul Tillich, Reinhold Niebuhr ac Ian Ramsay ymhlith eraill, pobl roedd y diwinydd o Dresimwn yn eu hadnabod yn dda. Portread o’r athrylithgar Donald MacKinnon, athro ym Mhrifysgolion Aberdeen a Chaergrawnt ac un o’r dylanwadau mawr ar Rowan Williams, cyn-archesgob Cymru a chyn-archesgob Caergaint, a gawn y tro hwn. Mae oriel portreadau Heywood Thomas yn un amrywiol a diddorol, a gwych o beth yw cael sylwadau’r awdur wrth iddo’n tywys ar hyd iddi. Cyfaill a chydweithiwr i Heywood Thomas oedd y diweddar Athro Gwilym H. Jones, pennaeth yr Adran Astudiaethau Beiblaidd ym Mhrifysgol Bangor, ac un o gyfieithwyr y Beibl Cymraeg Newydd. Cawn deyrnged gyfoethog iddo ef hefyd gan Eryl Wynn Davies, yntau yn un o’n pennaf ysgolheigion ym myd yr Hen Destament.
Rhan o swyddogaeth Y Traethodydd yw tafoli cynnwys cyfrolau pwysig, a hynny gan adolygwyr o safon. Y tro hwn mae Dafydd Glyn Jones yn trin Between Wales and England: Anglophone Welsh Writing of the Eighteenth Century (Gwasg Prifysgol Cymru), astudiaeth Bethan Jenkins o weithiau Saesneg Lewis Morris, Ieuan Fardd ac Iolo Morganwg, tra bo Richard Owen yn talu sylw i gyfres Dafydd Glyn ei hun, sef Cyfres yr Hen Lyfrau Bach. Mae Gerald Morgan, sydd yntau’n addysgwr, yn adolygu Agor Cloriau: Atgofion Addysgwr (Y Lolfa), sef hunangofiant John Phillips, cyn-gyfarwyddwr addysg Ceredigion a chyngyfarwyddwr addysg yr hen sir Dyfed. Dyma gyfrol sy’n dadlennu llawer am y frwydr i warchod y Gymraeg yn ysgolion y gorllewin yn wyneb newidiadau demograffig a gwrthwynebiad milain mudiadau fel ‘Education First’, a gafodd gefnogaeth y Dr Alan Williams, cyn aelod seneddol Sir Gâr. Ac i derfynu, cawn gan y gwyddonydd Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, werthfawrogiad o lyfr Rowland Wynne, Evan James Williams, Ffisegydd yr Atom, y cyntaf yng Cyfres Gwyddonwyr Cymru gan Wasg Prifysgol Cymru. Ac yntau fel E. J. Williams yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Llandysul, mae’n dda darllen y gwerthfawrogiad mirain hwn.