Disgrifiad
Dathlwn eleni ganmlwyddiant geni’r mwyaf o’n nofelwyr, sef Emyr Humphreys, a chyfraniad Y Traethodydd at y dathliadau yw cyhoeddi ysgrif gynhwysfawr gan M. Wynn Thomas ar Emyr Humphreys yr Ewropead. Mewn gyrfa hirfaith a rhyfeddol, darluniodd y nofelydd o Sir Fflint holl droeon y Gymru Ymneilltuol o’i hafddydd ar ddechrau’r ganrif o’r blaen at ei machludiad dair cenhedlaeth yn ddiweddarach. Yn Outside the House of Baal, A Man’s Estate, cyfres ‘The Land of the Living’, The Taliesin Tradition, cerddi Shards of Light ac eraill ynghyd a’r cynnyrch Cymraeg fel Y Tri Llais, gan Emyr y ceir y portread mwyaf amlhaenog o chyfoethog o’r Gymru honno a esgorodd ar ‘Gymru newydd’ yr unfed ganrif ar hugain. Darllener yr ysgrif ardderchog hon i sylweddoli o’r newydd athrylith y tywysog ymhlith ein nofelwyr. Yr ydym yn falch hefyd o gyhoeddi adolygiad cynhwysfawr Dafydd Johnston o astudiaeth feirniadol gampus M. Wynn Thomas, Emyr Humphreys, yn y gyfres ‘Writers of Wales’.
Ynghyd â hyn, fe gynnwys y rhifyn hwn ddwy gerdd gan y llenor amryddawn John Emyr; ‘Y Plentyn yn y Canol’: Yr Addysg Newydd yng Nghymru c.1918-1969’, sef astudiaeth fanwl a hynod ddiddorol gan Llion Wigley yn olrhain twf a therfyn yr addysg flaengar honno a gysylltir ag ysgol Summerhill ac A. S. Neill. Diddorol yw darllen enwau fel Gwenan Jones, Cassie Davies, George M. Ll. Davies a Merfyn Turner – enwau anghofiedig, ysywaeth – yn gysylltiedig â’r fenter arbrofol hon. Un o ffyddloniaid Y Traethodydd, sef D. Ben Rees, sy’n talu teyrged hyfryd a chynhwysfawr i’r emynydd Hywel M. Griffiths a fu farw’n gynamserol o gynnar yn 2005. Yn fyw na bywgraffiad, mae’n tafoli hefyd ei waith creadigol ac yn ein hatgoffa gymaint oedd ei gyfraniad at ganiadaeth y cysegr nid yn unig yn ei oes ei hun ond i mewn i’r cyfnod presennol.
Ymhlith yr adolygwyr mae Mererid Hopwood yn tafoli cyfrol Lisa Sheppard, Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’. Aralledd ac amlddiwylliannedd mewn ffuglen Gymreig, er 199;, Ieuan Elfryn Jones yn trafod yng ngoleuni ei brofiadau yntau fel gweinidog a chyn-filwr ddyddiadur rhyfel gweinidog a chyn-filwr arall, sef Stephen O. Tudor, Dyhead am Hedwch: Dyddiaduron Milwr 1918 a 1919; a Rhys Llwyd yn rhoi sylw i’r ‘ffigur diddorol a dadlennol’ hwnnw, Simon Brooks, a’i gyfrol Adra – Byw yn y Gorllewin Cymraeg. Rhwng popeth felly, dyma rifyn amrywiol a chyfoethog arall o’r Traethodydd, cylchgrawn chwarterol y diwylliant Cymraeg.