Siop

Y Traethodydd: Rhifyn Gorffennaf 2020

£4.00

Yn cyflwyno rhifyn Gorffennaf 2020 Y Traethodydd 

Allan o stoc

Disgrifiad

Er gwaethaf argyfwng Covid-19, mae rhifyn Gorfennaf o’r Traethodydd bellach ar gael i’ch goleuo chi a’ch diddanu. Yn y rhan gyntaf o ysgrif a fydd yn ymestyn dros ddau rifyn, bydd Llion Wigley yn mynd â chi ar daith i fannau tramor lle bu’r Cymry yn ymweld â nhw ar ganol yr ugeinfed ganrif. ‘Rhyfeddu at y cread’ yw teitl ei ysgrif, a’i his-bennawd yn ‘Llenyddiaeth taith yn Gymraeg, c. 1931-1975’, a chewch gwmni amrywiaeth o awduron yn cynwys Ambrose Bebb a’i Grwydro’r Cyfandir yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd, Dafydd Jenkins yn cymharu Cymru â gwledydd Llychlyn yn y pumdegau a Dewi Eirug Davies a Gareth Alban Davies, dau Annibynnwr a fu’n trigiannu yn America dros dro yn y chwedegau, y naill yn Richmond Virginia fel y tystir yn ei ddyddlyf Blas Virginia (1963), a’r llall yn Dartmouth, New Hampshire fel y gwelir o’i Ddyddiadur America flwyddyn yn ddiweddarach. A ninnau wedi bod yn gaeth i’n cartrefi am gyhyd, mae rhywbeth difyr a diddanus cael bod yn eu cwmni, yn ein hatoffa am ryddid a gollwyd heb sôn am y newidiadau creiddiol rhwng eu cyfnod nhw a’n byd ninnau. Natur crefyddol sydd i ddwy erthygl arall, sef erthygl-adolygiad Dr Robert Pope yn tafoli gwaith Golygydd y Traethodydd, Theologia Cambrensis: Protestant Religion and Theology yn Wales, Cyfrol 1, 1588-1760, a darlith Dr John Tudno Williams sy’n crynhoi cynnwys ei gyfrol newydd, Diwinyddiaeth Paul sydd newydd ymddangos gan Wasg Prifysgol Cymru. Mae mwy na thipyn yn cysylltu’r naill ysgrif â’r llall, gan i’r Beibl fod yn sylfaen gweithgaredd ddeallusol ac ysbrydol y Cymry rhwng cyfnod William Salesbury, yr Esgob Richard Davies a’r Esgob William Morgan, y cyfiethwyr cynnar, a’r Diwygiad Efengylaidd, ac i syniadaeth yr Apostol fod yn flaenllaw yn eu dealltwriaeth o ‘fêr yr athrawiaeth iachus’. Frrwth sylwadau a draddodwyd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r ddau gyfraniad fel ei gilydd, y naill yn Eisteddfod Caerdydd a’r Fro a’r llall yn Eisteddfod Llanrwst a Dyffryn Conwy. Cyflwynodd Dr John Tudno ei ddarlith er cof am un a fu’n annwyl i lawer ohonom, sef y diweddar Barchg Euros Wyn Jones roedd ei farw annhymyg yn gymaint golled i’r dystiolaeth Gristnogol yn ein gwlad. Yn ogystal â’r uchod ceir cerddi gan y bardd Mary Burdett-Jones a dau adolygiad swmpus, y naill gan Robert Rhys yn tafoli astudiaeth Rhys Llwyd ar genedlaetholdeb Cristnogol R. Tudur Jones (y byddwn yn dathlu canmlwydd ei eni y flwyddyn nesaf), sef Tynged Cenedl (Cyhoeddiadau’r Gair), a’r llall gan Carys Moseley yn gwerthfawrogi cyfrol R. Iestyn Daniel Llythyr Gildas a Dinistr Prydain, un o Gyfrolau Cenedl a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ddalen Newydd. Mae’r ddwy ymdriniaeth yn dreiddgar wybodus, a’r gweithiau y maent yn seiliedig arnynt yn gyfraniad pwysig i swm ein dealltwriaeth o’n gwaddol genedlaethol. Diolchwn i staff ymroddgar Gwasg Gomer am sicrhau bod Y Traethodydd yn dal i gael ei gynhyrchu er gwaethaf pwysau rhyfedd y cyfnod clo. Os hoffwch archebu copi, gallwch wneud hynny trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am wybodaeth ychwanegol gellwch gysylltu ag Alice Williams (alice@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.