Siop

Y Traethodydd: Rhifyn Gorffennaf 2021

£5.00

Yn cyflwyno rhifyn Gorffennaf Y Traethodydd

Categorïau: , Tagiau: ,

Disgrifiad

Gan mlynedd yn ôl i eleni y ganed yr ysgolhaig a’r arweinydd crefyddol dylanwadol R. Tudur Jones, ac yn rhifyn Gorffennaf o’r Traethodydd ceir ysgrif gan y golygydd yn dwyn ei gyfraniad i gof ac yn tafoli ei waith. Bydd llawer o ddarllenwyr Cenn@d fel darllenwyr Y Tyst yn cofio amdano ac nid hwyrach yn ddyledus iddo am yr hyn a gyflawnodd mewn oes gyfan o ymroddiad dros fuddiannau’r ffydd yng Nghymru. Pleser yw cael talu teyrnged iddo fel hyn a dwyn ei waith i sylw cenhedlaeth na chafodd y fraint o’i adnabod.

Yn ogystal â’r ysgrif deyrnged, mae Pryderi Llwyd Jones yn yr ail o’i ysgrifau ar y pwnc, yn parhau i’n goleuo ni ynghylch bywyd a gwaith George Herbert, y bardd o’r Gororau. Cawsom wybod y tro o’r blaen am droeon ei fywyd lliwgar yn y brifysgol ac yn y llys, a cheir mwy y tro hwn am nodweddion ei weinidogaeth fel offeiriad cefn gwlad mewn plwyf di-sylw, ac am athrylith ei awen. Fel y dywedwyd y tro diwethaf, mae cymhlethdodau’r stori yn adlewyrchu cymhlethdodau personoliaeth sydd, fodd bynnag, yn swynol ryfeddol. Gwych o beth yw cael darllen amdano a’r hyn sydd ganddo i’w ddweud wrth ein cenhedlaeth rwyfus ni.

Trwy law’r Prifardd Meirion Evans y daeth ysgrif i law ar R. Silyn Roberts a’r Delyneg. Rhan o draethawd ymchwil ei ddiweddar fab Geraint yw’r ysgrif, traethawd na chyhoeddwyd hyd yma ond sy’n gyfraniad gwir werthfawr i’n dealltwriaeth o feirdd rhamantaidd dadeni llenyddol dechrau’r ugeinfed ganrif. Yn ogystal â’n cyfarwyddo ni yn y maes, mae’r ysgrif yn deyrnged i ysgolhaig disglair a gollasom lawer yn rhy gynnar. Braint eto yw cyhoeddi’r ymdriniaeth hon.

Cyfrol sydd wedi achosi cryn drafodaeth yn ystod y misoedd diwethaf yw Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig gan yr athronydd ifanc Huw L. Williams, ac amheuthun yw medru rhoi llwyfan i ddeialog ystyrlawn a chraff rhwng yr awdur a dau o’i gyfoeswyr, sef Carwyn Graves a Dewi Alter. Pelagius, y mynach Brythonig o’r bedwaredd ganrif, yw ‘Morgan’ y teitl, er bod islais Morgan arall, sef y piwritan radical Morgan Llwyd i’w glywed yn yr ymgomio hefyd. Beth yw’r ‘meddwl Cymreig’, a beth sydd ganddo i’w ddweud wrthym yn nhrydydd degad yr unfed ganrif ar hugain? Cewch eich goleuo gan y drafodaeth ddeallus hon, a’ch herio yr un pryd.

Yr uchod, ynghyd â’r ail ysgrif yng nghyfres Enid Morgan ‘Ar y ffiniau’, cerddi gan Goronwy Wyn Owen a Mary Burdett-Jones a chyfiethiad Pryderi Llwyd Jones o ddwy o gerddi mawr George Herbert, yw cynnwys y rhifyn cyfoethog hwn o gylchgrawn hynaf Cymru a ‘Chylchgrawn y Diwylliant Cymraeg’. Wedi’i argraffu gan Wasg Gomer, Llandysul, gellir ei archebu ar lein trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am fanylion ynghylch ei archebu, cysylltwch ag Alice Williams (alice@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.