Siop

Y Traethodydd: Rhifyn Hydref 2016

£4.00

Rhifyn Hydref 2016

1 mewn stoc

Disgrifiad

Yn erthygl agoriadol rhifyn Mis Hydref o’r Traethodydd, mae Iestyn Daniel yn trafod bywyd a gwaith Gildas, awdur enwog y traethawd De Excidio Britanniae, ‘Ar Gwymp Prydain, sy’n rhoi golwg i ni ar fywyd Cymru nôl yn y chweched ganrif. Yr ydym yn meddwl am y chweched ganrif fel Oes y Saint, oes Dewi ac Illtud a Theilo yn y de, a Beuno a Chybi a Seiriol yn y gogledd, ac yn yr erthygl gyfoethog hon mae’r awdur yn rhoi golwg newydd i ni ar fywyd ein cyndadau ym more bach hanes y genedl. Fel y ‘saint’, gŵr eglwysig oedd Gildas, ond fel proffwydi’r Hen Destament gallai daranu’n huawdl yn erbyn pechodau ei oes. Os hoffwch wybod mwy amdano, a dyfalu pam nad oes yng Nghymru yr un Llanildas, tra bo llawer i Landdewi a Llangybi a Llandeilo, darllenwch yr ysgrif olau a difyr hon.

Yn ogystal â hynny mae Dafydd Ifans yn tafoli cynnyrch diweddar y nofelydd Tony Bianchi, enillydd Gwobr Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2015, tra bo Bobi Jones yn cynnig gwrthddadleuon grymus i ‘atheistiaeth newydd’ Cynog Davies a gafodd ei gwyntyllu’n ddiweddar mewn sgwrs ac ysgrif, ac yng nghyfrol ddadleuol yr awdur, Duw yw’r Broblem. Efallai nid Duw yw’r broblem, yn ôl Bobi Jones, ond y rhagdybiaeth sy’n mynnu ei bod hi’n amhosibl i bobl ddeallus yr unfed ganrif ar hugain gredu yn Nuw y Beibl. Un a gredodd yn Nuw y Beibl oedd y diweddar Gwynn ap Gwilym, y bardd a’r clerigwr a droes – fel Edmwnd Prys gynt – Lyfr y Salmau yn gân, ac a fu farw yn gynharach eleni. Mewn teyrnged iddo, mae ei berthynas Elfed ap Nefydd Roberts, a fu’n gydweithiwr ag ef am flynyddoedd, yn sôn am ei gyfraniad fel awdur ac ysgolhaig.

Yn ei ysgrif ‘A. M. Allchin a’r Traddodiad Cymraeg’, mae’r Golygydd yn dwyn ger bron ei atgofion am y llenor a’r diwinydd o Sais, A. M. ‘Donald’ Allchin, ac yn trafod natur ei ddealltwriaeth o’r traddodiad ysbrydol y gwaeth ef gymaint i’w hyrwyddo a’i ddehongli. Ceir hefyd adolygiad golau gan ei gyfaill, Saunders Davies, cyn-esgob Bangor, ar gyfrol deyrnged Saesneg a gyhoeddwyd yn ddiweddar i’r Canon Allchin, sy’n dangos natur cyfraniad y gŵr hwn i amrywiaeth eang o feysydd.

Ymhlith yr adolygiadau eraill mae Cynfael Lake yn gwerthfawrogi cyfrol gyfoethog Gruffydd Aled Williams ar Owain Glyndwr, gwaith ditectif manwl a difyr sy’n olrhain yr hanesion am ddiflaniad Glyndwr wedi’r gwrthryfel, a’r mannau ar y gororau sy’n gysylltiedig â’i enw ac sydd, o bosibl, yn fan ei gladdu, tra bo Geraint Tudur yn talu gwrogaeth haeddiannol i gyfrol swmpus John Gwynfor Jones ar John Penry, y Piwritan selog o Fynydd Epynt a ddaeth yn arwr i Ymneilltuwyr a gwladgarwyr fel ei gilydd yn sgil ei safiad dewr dros ryddid addoli dair canrif a mwy yn ôl.

Hefyd ceir ail ran ysgrif Megan Williams ‘Allan o’r Cysgodion: Darlun y Beibl o’r Ferch’, sef ei disgrifiad o ffrwyth gwaith y Diwinyddion Ffeministaidd a’u dehongliad nhw o le’r ferch yn yr Ysgrythurau. Golygydd Y Traethodydd ywr Athro D. Densil Morgan, Llanbedr Pont Steffan, gyda chymorth yr Athro Mererid Hopwood, Dr T. Hefin Jones, Dr A. Cynfael Lake a Dr Eryn M. White.