Disgrifiad
Dathlu camp William Salesbury, un o awduron mwyaf Cymru’r Dadeni Dysg, a wnawn yn rhifyn Hydref o’r Traethodydd. Ffrwyth y gynhadledd ‘Gair i’r Cymry: Archwilio Testament Newydd 1567’ a gynhaliwyd yn Theatr Halliwell, Caerfyrddin, o dan nawdd Esgobaeth Tyddewi ym mis Mai eleni yw sylwedd y rhifyn, a theflir goleuni newydd ar fywyd a gwaith Salesbury a’i gyfraniad i’n diwylliant beiblaidd. Mewn papur cynhwysfawr agoriadol gan Dr Robert Pope, disgrifir cefndir hanesyddol cyfieithu’r ysgrythurau, sef awydd llywodraeth Elizabeth I i sicrhau undod oddi mewn i’w theyrnas ar y nall law, a dymuniad diffuant y frenhines, gweinidogion y goron a’i hesgobion, i hyrwyddo’r Diwygiad Protestannaidd yn y wlad ar y llaw arall. Un o argyhoeddiadau craidd y Diwygiad oedd sola scriptura, sef ‘yr Ysgrythur yn Unig’, a golygai hynny i’r Cymry Feibl yn eu hiaith eu hunain. Pa mor bwysig oedd cyfraniad William Morgan wrth gyflawni’r nod hwn gyda Beibl 1588, yr arloeswr oedd Salesbury gyda’i weithiau yntau, sef Kynniver Llith a Ban, y Llyfr Gweddi Cyffredin a Thestament Newydd 1567, cyn hynny. Heb wybod y cefndir gwleidyddol a chrefyddol, anodd dirnad arwyddocâd llafur Salesbury yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg.
Pe na sylweddolwyd athrylith Salesbury ac eangder ei ddysg cyn hyn, amhosibl fyddai ei wadu wedi darllen ysgrif yr Athro Ceri Davies, ‘William Salesbury: Dyneiddiwr Cristnogol’. Dyneiddiaeth oedd y symudiad Ewropeaidd i adfer gogoniant yr hen ieithoedd clasurol, Lladin a Groeg, a’r diwylliant oedd ynghlwm â hwy, ac er gwaethaf tlodi Cymru a’r ffaith ei bod yn amddifad o’i sefydliadau cenedlaethol, ei senedd, ei phrifysgolion a’i llys ei hun, eto cyrhaeddodd y Dadeni Gymru trwy gyfrwng unigolion fel Salesbury ac eraill. Mynd yn ôl ad fontes, ‘at y ffynonellau’, oedd yr egwyddor, sef yr ieithoedd gwreiddiol, a dyna bwysigrwydd Groeg a Hebraeg o ran testun y Beibl. Braint Cymru oedd cael rhywun fel Salesbury a oedd nid yn unig yn hyddysg yn yr egwyddor, ond bod ganddo’r gallu i drosi’r ieithoedd beiblaidd i Gymraeg er mwyn ei bobl ei hun. O ddarllen gweithiau Salesbury, ychydig iawn mae’n ei ddatgelu amdano’i hun. Un peth hynod am ei gyfrol Baterie of the Popes Botereulx (’Ymosodiad at Geyrydd y Pab’) yw’r dystiolaeth bersonol sydd ynddi am ei droedigaeth o Gatholigiaeth ei fagwraeth yn Nyffryn Clwyd i’r Brotestaniaeth newydd. Dyna thema ysgrif D. Densil Morgan.
Dwy ysgrif sy’n canoli ar egwyddorion cyfiethu sydd gan Geraint Lloyd a Dr Christine Jones, y ddau yn aelodau staff Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, sy’n cloi’r gyfres. Hynod ddifyr yw’r ymdriniaeth Geraint Lloyd, sy’n dangos fel y byddai Salesbury yn cyfiethu ‘air am air’, a hynny er mwyn cyfleu orau ystyr y testun. Dilyn ei arwr, yr ysgolhaig Desiderus Erasmus, prif ddyneiddiwr Ewrop, a wnâi wrth ddilyn y llwybr hwn, a gwelwn eto ehangder ei ddysg ac aruthredd ei gamp. Yr un mor ddifyr yw ysgrif Christine Jones, nid ar Salesbury fel y cyfryw ond ei gydlafurwr, Thomas Huet, a gyfiethodd Lyfr y Daguddiad ‘yn iaith ei wlad’, sef tafodiaeth y De. Un o gantref Buellt yn Sir Frycheiniog oedd Huet yn ôl pob tebyg, ble byddai’r Wenhwyseg yn cael ei siarad yn yr ail ganrif ar bymtheg, ond a dreuliodd ei yrfa yn Nhyddewi, ac ôl iaith Dyfed sydd ar ei gyfeithiad yn ogystal â iaith Brycheiniog a’r Deddwyrain. Dyma wledd, felly, i’r sawl sy’n ymddiddori mewn tafodiaetheg yn ogystal ag egwyddorion cyfiethu’r Beibl.
Yn ogystal â’r ysgrifau hyn ar Wiliam Salesbury, ceir ysgrif gan John Emyr ar y bardd mawr R. S. Thomas ac adolygiadau ar gofiant Hefin Wyn ar T. E. Nicholas, ‘Niclas y Glais’, pedwaredd gyfrol Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru dan olygyddiaeth John Gwynfor Jones a Marian Beech Hughes, Yr Ugeinfed Ganrif (c. 1914-2014): Tystiolaeth, Cenhadaeth a Her y Ffydd, ac adolygiad gan un o’n hawduron ifanc, Gareth Evans-Jones ar gasgliad diweddar M. Wynn Thomas, Cyfan-dir Cymru: ysgrifau ar gyfannu dwy lenyddiaeth Cymru.