Siop

Y Traethodydd: Rhifyn Hydref 2019

£4.00

Yn cyflwyno rhifyn diweddara Y Traethodydd 

SKU: 49 Categorïau: , Tagiau: ,

Disgrifiad

Lun gan yr artist ei hun, sef Gwenllian Spink, sydd ar glawr rhifyn diweddaraf Y Traethodydd, cylchgrawn chwarterol y diwylliant Cymraeg. Llun o gerflun ydyw, wedi’i leoli ar rosydd unig gogledd Ceredigion. Beth ydyw? Llongdrylliad ar Bumlumon? Darllenwch y gerdd ‘Cerflun wedi’i leoli dros dro’, sef un o ddwy gerdd gan y bardd Mary Burdett-Jones, i wybod mwy. Er bod pwyslais Y Traethodydd wedi bod ar gyhoeddi erthyglau ffeithiol, dadansoddol a syniadaethol erioed, mae’n dal i gynnal yr arfer anrhydeddus o gynnwys ar ei dudalennau lenyddiaeth greadigol. Bydd rhai yn ein plith yn cofio mai dyma’r cylchgrawn a gyhoeddodd gyntaf gerddi gan Euros Bowen a Saunders Lewis a straeon byrion gan Kate Roberts, ac mae’n dda bod Mary Burdett-Jones yn cynnal y traddodiad o hyd gyda’i dwy gerdd hithau, a’r llenor amryddawn John Emyr gyda’i stori fer newydd o dan y teitl ‘Ymweliad’. Byddai’n werth prynu’r rhifyn hwn petai ond ar gyfer y cyfraniadau cyfoethog hyn.

Yn ogystal â’r llên greadigol, cawn ein tywys yn ôl i ddau gyfnod pwysig mewn hanes, sef y cyfnod modern cynnar ac yna’r ugeinfed ganrif, a hynny gan gyfranwyr sy’n arbenigwyr cydnabyddedig yn eu meuysydd. Yn yr erthygl sylweddol ond tra darllenadwy, ‘Achos rhyfedd William Parry, ysbïwr dwbwl (1571-85)’, sef y gyntaf mewn astudiaeth o ddwy, mae John Gwynfor Jones, yr hanesydd o Gaerdydd, yn dangos nad peth newydd o bell fordd mo’r celfyddyd tywyll o dwyll gwleidyddol. Wedyn, mewn ymdriniaeth olau iawn gan yr ysgolhaig ifanc o Aberystwyth James January-McCann, down i wybod mwy am gyfraniad Robert Gwyn, y reciwsant o Sir Gaernarfon, ac un o ladmeryddion mwyaf abl y Gwrthddiwygiad yng Nghymru’r ail ganrif ar bymtheg. Ac i droi at hanes mwy diweddar, a hithau’n dri-chwarter canrif wedi’r cyrch ar Arnhem, ‘a bridge too far’, yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, mae Gethin Matthews o Brifysgol Abertawe yn rhannu sgwrs â Gwynfor Hughes, peilot o Gymro a fu’n rhan o’r ymladd ac sy’n cyfleu yn fyw iawn yr erchylltra a brofodd yno. ‘Sobor o beth’ yw pennawd y sgwrs, sef cyfeiriad at oferedd y lladd a fu’n rhan o’r frwydr. Ym myd rhyfelgar yr unfed ganrif ar hugain, sobreiddiol yw darllen atgofion y swyddog meddylgar hwn o’r llu awyr.

Nodyn tebyg sy’n cael ei daro yn adolygiad Ieuan Elfryn Jones, yntau’n gyn swyddog milwrol, ar y gyfrol Dyhead am Hedwch: Dyddiaduron Milwr 1918 a 1919, yn seiliedig ar ddyddiaduron y caplan milwrol Stephen Owen Tudor, ac un o’r llu gyfrolau a gyhoeddwyrd eleni a’r llynedd i nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ac yntau’n swyddog yn Rhyfel y Gwlff yn nawdegau’r ganrif o’r blaen, ond ers blynyddoedd yn weinidog yr efengyl ar Ynys Môn, diddorol iawn yw darllen sylwadau’r adolygydd ar brofiadau gŵr ystyrgar a hydeiml mewn rhyfel cynharach. Dau sylwebydd iau sy’n cwblhau’r adolygu, sef Rhys Llwyd yn sôn am Adra: Byw yn y Gorllewin gan Simon Brookes, a Gareth Evans-Jones yn trafod astudiaeth ddisglair Llion Wigley ar ddylanwad syniadaeth Freud ar feddylwr Cymraeg yr ugeinfed ganrif yn y gyfrol Yr Anymwybod Cymreig: Freud, Dirfodaeth a’r Seice Cenedlaethol. Da gweld awduron o’r to iau yn cyfrannu mor gyfoethog at y drafodaeth ddeallusol yn y Gymru gyfoes.