Siop

Y Traethodydd: Rhifyn Hydref 2021

£5.00

Yn cyflwyno rhifyn diweddara Y Traethodydd

Disgrifiad

Erbyn hyn bydd rhifyn diweddaraf Y Traethodydd, sef rhifyn Hydref 2021, wedi cyrraedd y siopau llyfrau, ond gorau i gyd os ydych wedi archebu’ch copi trwy danysgrifiad. Beth bynnag fo dull y prynu, chewch chi ddim mo’ch siomi am fod yr arlwy yn gyfoethog a’r cynnwys yn amrywiol.

Mewn ysgrif olau a chynhwysfawr, mae Gruffydd Aled Williams yn dathlu un o drysorau cynhysgaeth grefyddol a diwylliannol y genedl, sef Salmau Cân Edmwnd Prys, a hynny bedwar can mlynedd ar ôl eu cyhoeddi gyntaf. Mae’n darlunio’u cefndir yn awydd arweinwyr yr Eglwys Sefydledig i hybu’r ffydd Brotestannaidd, ac yn unol ag egwyddor cael y Beibl yn iaith y bobl, i wneud hynny yn Gymraeg. Sonia am fagwraeth Prys yn Nyffryn Conwy, ei addysg yng Ngholeg Ieuan Sant, Caer-grawnt, lle roedd yn gyfoeswr â’r Esgob William Morgan, ac am yr egwyddoron dyneiddiol Gristionogol a oedd yn sbarduno cenhadaeth y ddau ohonynt. Os hoffwch wybod mwy am yr hanes, am y cyfiethiadau cynharaf o’r Salmau, am egwyddorion cyfiethu, trosi a mydryddu Prys ac effaith y Salmau Cân ar Gristnogaeth Cymru ar hyd y canrifoedd, darllenwch yr ysgrif gampus, graff-ddadansoddol hon.

Dadansoddi craff a golau sy’n nodweddu ysgrif arall o natur lenyddol, sef ymdriniaeth Robert Rhys â gwaith y llenor o Ryd-ddu: ‘ “Cymorth hawdd ei gael”: Cyfeiriadaeth a Rhyngdestunoldeb yng ngwaith T. H. Parry-Williams’. Er inni symud yn yr ysgrif hon o’r ail ganrif ar bymtheg i’r ugeinfed ganrif, ac o argyhoeddiad ffydd at sgeptigiaeth fodern, mae’n syndod gweld pa mor ganolog i weledigaeth y llenor hwn oedd Cymraeg seinber Edmwnd Prys a chyfeiriadaeth gyfoethog Beibl William Morgan. Dyma ysgrif wirioneddol afaelgar, sy’n ein hatgoffa (a bod angen ein hatgoffa) am gyfoeth llên yr ugeinfed ganrif, boed mewn barddoniaeth neu ryddiaith greadigol.

I fyd annisgwyl crefyddau’r Dwyrain yr aiff Llion Wigley yn y gyntaf o ddwy ysgrif o dan y teitl: ‘Karma Cymraeg: Bwdhaeth, Hindŵaeth a’r Cymry, c. 1920-80’. Gan ddyfynnu o weithiau llenorion o’r blynyddoedd rhwng y Ddau Byfel Byd hyd dri-chwarter olaf y ganrif o’r blaen – D. Miall Edwards, T. Glyn Thomas a Cyril G. Williams o blith y diwinyddion, Kate Bosse-Griffiths, Waldo Williams ac eraill o blith y llenorion – gwelwn fel y cyfareddwyd y Cymry gan ffigurau blaenllaw fel Rabindranath Tagore a Mahatma Gandhi, a fel y bu i’w syniadaeth gyfrannau at ddelfrydau di-drais y mudiad cenedlaethol. Dyma draethiad hynod ddiddorol, a bydd disgwyl mawr am ail ran yr ymdriniaeth a fydd yn yn ymddangos yn rhifyn Ionawr 2022.

John Emyr sy’n cynrychioli’r beirdd yn y rhifyn hwn gyda thair cerdd o’i eiddo, a phleser yw cynnwys adolygiad Rob Phillips o gyfrol swmpus a lliwgar D. Ben Rees ar Jim Griffiths, Cymro twymgalon o wleidydd Llafurol ac Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, ynghyd â gwerthfawrogiad Elwyn Richards o’r gyfrol deyrnged i’w gyd-addysgydd gweinidogaethol, y diweddar Euros Wyn Jones.

Dyma rifyn cyfoethog arall o gylchgrawn hynaf Cymru a ‘Chylchgrawn y Diwylliant Cymraeg’. Wedi’i argraffu gan Wasg Gomer, Llandysul, gellir ei archebu ar lein trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am fanylion ynghylch ei archebu, cysylltwch ag Alice Williams (alice@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.