Siop

Y Traethodydd: Rhifyn Ionawr 2016

£4.00

Rhifyn Ionawr 2016

4 mewn stoc

Disgrifiad

Yn rhifyn cyntaf 2016 o’r Traethodydd, ceir gwerthfawrogiad o waith y Dr Brynley F. Roberts a fu’n golygu cylchgrawn llenyddol hynaf Cymru er 1999. Mewn ysgrif helaeth gan yr Athro Gruffydd Aled Williams, cyn-bennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, disgrifir gwaith y Dr Roberts fel golygydd, nid yn unig o’r Traethodydd ond hefyd y Bywgraffiadur Cymreig a’r casgliad sydd wedi hen ennill ei blwyf fel emyniadur mwyaf sylweddol Cymru, sef Caneuon Ffydd. O ddarllen yr ysgrif haelfrydig hon gwelir gymaint yw’n dyled i lafur a diwydrwydd yr ysgolhaig diymhongar o Aberdâr, a dymunir y gorau iddo wrth iddi ymddeol nid i segurdod ond i weithio ar ei gofiant hirddisgwyliedig i Edward Lhuyd a phrosiectau academaidd eraill. Diolch i chi Bryn am eich gwaith gloyw ar hyd y blynyddoedd, a bendith i chi am amser maith i ddod.

Y clasuron yw thema ysgrif hynod ddifyr gan gyn aelod seneddol Llanelli, y Gwir Anrhydeddus Denzil Davies, sy’n dwyn ar gof flynyddoedd ei lencyndod yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Caerfyrddin, yn y 1950au, pan drwythwyd ef yn yr ieithoedd clasurol, Lladin a Groeg, fel paratoad ar gyfer mynediad i’r brifysgol. Ychydig sy’n cofio pa mor sylweddol oedd yr addysg a gyfrennid yn yr hen ysgolion gramadeg, a pha mor rwymedig oedd yr athrawon i sicrhau’r gorau ar gyfer eu disgyblion. Roedd yr hyn a ddysgodd y crwt o Gynwil Elfed yn sail gadarn ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn Nhŷ’r Cyffredin wedi hynny fel cynrychiolydd ei bobl ac yn un o weinidogion y goron. Darllener yr ysgrif er mwyn cael golwg ar gyfoeth addysg uwchradd canol y ganrif o’r blaen, a sut y cafodd y Cymro y gorau ar un o gefnogwyr mwyaf brwd Mrs Thatcher, a hynny trwy’r hyn a ddysgwyd iddo yng Nghaerfyrddin gynt.

Parheir y thema glasurol yn adolygiad cyfoethog Dafydd Glyn Jones o gampwaith yr Athro Ceri Davies, sef ei olygiad newydd o gyfrol Syr Siôn Prys Historiae Britannicae Defensio (1573), amddiffyniad yr uchelwr o Aberhonddu o 2 hynafiaeth y Cymry. Dyma gyfrol mae llawer yn cyfeirio ati ond ychydig erioed a’i darllenodd. Trwy gymwynas yr Athro Davies, a baratôdd y testun Lladin ynghyd â chyfieithiad Saesneg a rhagymadrodd helaeth, gallwn ddarllen trosom ein hunan apêl Siôn Prys o blaid urddas ein tras. Bydd sylwadau nodweddiadol fywiog a threiddgar Dafydd Glyn Jones yn codi archwaeth arnom oll i ddarllen y gwaith mawr hwn drosom ni ein hunain.

Cymeriadau yng ngwaith Williams Pantycelyn, ei gerddi hir a’i lyfrau rhyddiaith, yw pwnc Eifion Evans, a hynny fel paratoad ar gyfer dathlu tri chanmlwyddiant geni y Pêr Ganiedydd y flwyddyn nesaf. Dangosir eto pa mor fedrus a seicolegol graff oedd cymeriadu’r emynydd, a pha mor ddifyr, diddorol a darllenadwy yw ei waith o hyd.

Symud o’r ddeunawfed ganrif at yr ugeinfed ganrif a wneir yn y ddwy ysgrif olaf. Mae Bleddyn Owen Huws yn taflu goleuni ar englynion gan R. Williams Parry
na chyhoeddwyd mohonynt o’r blaen. Englynion cyfarch i’w gefnder, T. H. Parry-Williams, ar gael ei benodi i Gadair Gymraeg Aberystwyth yn 1920 ydynt. Gwelwn eto pa mor ddadleuol oedd y penodiad hwnnw yn sgil amhoblogrwydd safiad Parry-Williams fel heddychwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. A ninnau yn nodi dewrder y rhai a aeth i faes y gad (a hynny yn gwbl briodol), mynegodd eraill fath arall o ddewrder trwy sefyll ar dir cydwybod yn erbyn rhyfela, T. Gwynn Jones a Parry-Williams yn eu plith. Diddorol yw ail ymweld â’r helynt, a chael darllen englynion newydd eu darganfod gan fardd mawr a phwysig.

Hanes mwy diweddar sy gan J. Graham Jones yn y gyntaf o ddwy ysgrif (bydd y nesaf yn ymddangos yn rhifyn Ebrill) yn olrhain yr hanes a arweiniodd at sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999. Cryn ddrama oedd yr ymgais i sefydlu’r cynulliad, ac mae’r awdur yn dwyn ar gof yr holl droeon o’r Ymgyrch Senedd i Gymru yn y 1950 at y fuddugoliaeth olaf yn Refferendwm 1997. Gwelwn yma o’r newydd y dramatis personau, y rhai a fu o blaid yn ogystal â’r rhai a fu yn ei erbyn, ac fel y cynyddodd yr ymdeimlad traws-bleidiol erbyn y 1980au bod angen cael platfform democrataidd er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru fel cenedl, yn economaidd yn ogystal ac yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol yn ystod teyrnasiad didostur Mrs Thatcher. Cysylltir yma Denzil Davies (a Ron Davies, Gwynfor Evans a llu o rai eraill) a gweledigaeth Syr Siôn Prys, y gorffennol clasurol pell a’r gorffennol agos, mewn cofnod dadlennol iawn sy’n dod â ffeithiau newydd i’r golwg.

Ceir adolygiadau hefyd ar gyfrolau o ryddiaith a barddoniaeth gan rai o’n hawduron pennaf, yn cael eu tafoli gan eraill o blith ein hawduron craffaf. Dyma rifyn cyntaf o dan olygyddiaeth yr Athro D. Densil Morgan, Llanbedr Pont Steffan, gyda chymorth yr Athro Mererid Hopwood, Dr T. Hefin Jones, Dr A. Cynfael Lake a Dr Eryn M. White.