Disgrifiad
Beth yw’r ffordd gywir mewn byd rhyfelgar i fod yn dangnefeddwyr? Sut mae cydbwyso’r rheidrwydd, mewn byd amherffaith, i ddefnyddio grym, a galwad Iesu i ni droi’r foch arall ac i roi y cleddyf yn y wain? Yn y gyntaf o ddwy ysgrif yn rhifyn Ionawr o’r Traethodydd, mae Llion Wigley yn trafod yr union bwynt hwn yng nghyd-destun tystiolaeth heddychwyr Cymreig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Yn ogystal a bod yn ymdriniaeth hanesyddol, mae ‘Pamffledi Heddychwyr Cymru: Adeiladu’r Gymdeithas Amgen yn y 1940au’ yn sôn am yr her gyfoes sy’n wynebu pawb sy’n ymdeimlo â hawlau’r Testament Newydd. ‘Bwriad yr ysgrifau hyn’, meddai, ‘yw nid yn unig dod â pheth o’r dystiolaeth bwysig o’r pamffledi i’r amlwg o’r newydd, ond hefyd awgrymu gwerth a defnyddioldeb parhaol rhai o’r dadleuon dros heddychiaeth a fynegir ynddynt. Codir nifer o gwestiynau cymdeithasol ac athronyddol sylfaenol yn y pamffledi: sut ddylid trin
a diwygio troseddwyr; sut ddylid trefnu cymdeithas; sut ddylid delio gydag anghydfod rhwng cenhedloedd; a sut ddylwn, yn ei hanfod, ymdrin â’n gilydd fel pobl. Gall ystyried yr atebion a gynigir ein cynorthwyo i ailystyried, ac ailfeddwl efallai, rhai o’n rhagdybiaethau am y cyfnod pryd y’u hysgrifennwyd, yn ogystal â’r cwestiynau eu hunain’. Bydd yr ail ysgrif yn ymddangos yn rhifyn Ebrill.
Parheir y thema hanesyddol yn ysgrif Marion Loeffler, yr ysgolhaig o Brifysgol Caerdydd, ‘Bunsen, Müller a Meyer: Tri Almaenwr, y Gymraeg, y Frenhines a’r Ymerodraeth’. Nid pawb heddiw sy’n gwybod am gyfraniad mawr yr ysgolheigion Almeinig Y Barwn Christian von Bunsen, yr iethydd Max Müller a Friedrich Carl Meyer, er mor enwog oeddent yn oes Victoria, ac mae llai byth yn gwybod am eu hymwneud â Chymru a’u diddordeb yn y diwylliant Cymraeg. Mewn astudiaeth ardderchog, mae Dr Loeffler yn olrhain y cysylltiadau hyn, ac yn tanlinellu o’r newydd bwysigrwydd rhai fel Carnhuanawg, Thomas Stephens a chylch yr Arglwyddes Llanofer yn gwarchod ysgolheictod a’r diwyliant Cymreag pan oedd neb, braidd, yn sylweddoli eu gwerth.
Er i’r athronydd J. R. Jones farw mor bell yn ôl ag 1970, mae diddordeb bywiog yn ei gyfraniad o hyd, ac yn ei thraethiad ‘Cofio J.R: Yr Athro John Robert Jones yn ystod 1967-8’ mae Meirlys Lewis, gynt o Brifysgol Sheffield, yn adrodd ei hatgofion am ddarlithoedd ei mentor yng Ngholeg Abertawe, ac yn dweud rhywbeth am ei gyfaredd fel athro a dysgawdwr. Un o gyfoeswyr iau J. R. Jones ac yntau’n athronydd hefyd, yw’r Athro John Heywood Thomas, sy’n dal i gyfrannu’n gyson at ein diwylliant cyfoes, ac mewn ymdriniaeth ddifyr a meddylgar o dan y teitl ‘Traddodiad ac Arfer’, mae’n ein goleuo ynghylch y gwahaniaeth rhwng y ddau gysyniad, ‘traddodiad’ ac ‘arfer’, ac yn tynnu gwersi perthnasol. Cewch fudd o ddarllen yr ysgrif olau hon. Yn ogystal â’r uchod, mae lle hefyd ar dudalennau’r Traethodydd i lenyddiaeth greadigol, a’r tro hwn mae’rnofelydd, y bardd a’r storïwr byrion John Emyr yn ein diddanu ni gyda’i stori fer ‘Cyfle’, stori a enillodd y wobr gyntaf iddo yn Eisteddfod Môn. Dyma stori gynnil a theimladwy, sy’n cyfleu sylwadau treiddgar ynghylch dirgelwch y cyflwr dynol.
Rhan bwysig o swyddogaeth Y Traethodydd yw asesu’n llenyddiaeth gyfoes, a’r tro hwn ceir adolygiadau gan Delyth Morgan Phillips ar gyfrol Goronwy Prys Owen ar emynau Daniel Rowland, testun y Ddarlith Davies yn 2015; mae’r hanesydd celf Delyth Prys yn trafod astudiaeth ddiweddar ar Thomas Jones o Bencerrig, yr artist nodedig o Sir Faesyfed, tra bod Gruffydd Aled Williams, un o’n pennaf ysgolheigion y Gymraeg, yn tafoli yn werthfawrogol gyfrol bwysig Bleddyn Huws a Cynfael Lake, Genres y Cywydd. Wrth adolygu’r gyfrol hynod ddeniadol Y Preselau Gwlad Hud a Lledrith, mae Hedd Ladd-Lewis yn gwneud sylwadau perthnasol ar waith ei gyd frodor o Sir Benfro, Dyfed Elis-Gruffydd, tra bod Guto Dafydd yntau yn adolygu gwaith un arall o lenorion y to iau, Rhys Iorwerth a’i nofel Abermandraw. Ac i gloi mae Dydd Ifans yn talu sylw haeddiannol i hunangofiant y llyfrbryf Gerald Morgan, Cymro a’i Lyfrau.