Siop

Y Traethodydd: Rhifyn Ionawr 2020

£4.00

Yn cyflwyno rhifyn Ionawr Y Traethodydd 

47 mewn stoc

Categorïau: , Tag:

Disgrifiad

Ac yntau bellach wedi gadael Prifysgol Abertawe i fynd yn Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, ceir yn y rhifyn hefyd araith ymadawol Iwan Davies, cyn-ddirprwy-Is-Ganghellor Abertawe, gerbron Academi Hywel Teifi, yn sôn am dwf y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yno dros y chwarter canrif diwethaf, ac yn rhannu peth o’i obeithion am y blynyddoedd nesaf yng Ngholeg Bangor. Amheuthun o beth yw gwybod fod Cymry Cymraeg yn cael eu penodi i swyddi allweddol yn ein prifysgolion yn y dyddiau hyn.

Rhoddir cryn ofod yn rhifyn cyfredol Y Traethodydd, Cylchgrawn Chwarterol y Diwylliant Cymraeg, i awduron sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Abertawe. M. Wynn Thomas, sydd â’i wyneb ar y clawr ynghyd a’r penddelw o’i ewythr Alwyn D. Rees, sy’n traethu am gyfraniad yr ewythr hwnnw i fywyd Cymru ail hanner yr ugeinfed ganrif. Bydd rhai ohonom yn cofio am yr ymgyrchu brwd o blaid yr iaith ar dudalennau’r cylchgrawn Barn pan oedd Alwyn Rees yn olygydd arno. Tafoli gwaith cyhoeddus Alwyn a wneir yn yr erthygl gynhwysfawr hon, a’n rhybuddio rhag gadael i enillion ddoe droi yn anghof heddiw: ‘Mawr ac ardderchog fyddai y rhain yn eich chwedl, Gymru, pe baech chwi’n genedl.’

Un arall o ysgolheigion Abertawe yw R. Gwynedd Parry, awdur y gyfrol Y Gyfraith yn ein Llên (Gwasg Prifysgol Cymru, 2019), sy’n cael ei hadolygu gan ei gyd-gyfreithiwr Thomas Glyn Watkin, tra bod Gwynedd yntau yn rhoi sylw i atgofion cyn-Ysgrifennydd Cymru, John Morris, yn ei adolygiad o’r hunangofiant Cardi yn y Cabinet (Y Lolfa, 2019). Wedyn, a hithau ar un amser ar staff Prifysgol Abertawe, mae Mererid Hopwood yn adolygu atgofion Hywel Francis, sef cyn-athro Adran Allanol yr un sefydlaid, ac fel mae’n digwydd yn olynydd i John Morris fel aelod seneddol Aberafan. Mae Stories of Solidarity (Y Lolfa, 2018) yn cyfleu gwerthoedd cymunedol cymoedd y De, cymunedau y sefydlwyd Coleg Abertawe i’w gwasanaethu yn nau-ddegau’r ganrif o’r blaen, ac sydd, gobeithio, yn eu gwasanaethu nhw o hyd.

Yn ogystal â’r uchod, cyhoeddir ail ran ymdriniaeth John Gwynfor Jones â hanes William Parry, yr ysbiwr o Oes Elisabeth I, gan ddatgelu manylion ei ‘Achos Rhyfeddol’, tra bo Noel Gibbard yn adrodd hanes yr achos Annibynnol yn Seion, Dre-fach, Llanelli, stori sy’n lletach ei hapêl na hanes capel ymneilltuol arferol. Braf wedyn yw rhoi lle i un o’n hysgolheigion ifainc, Dewi Alter o Brifysgol Caerdydd, sy’n dadansoddi un o glasuron y Fethodistiaeth Gymreig, Drych yr Amseroedd gan Robert Jones Rhos-lan, ac yn gwneud hynny yn unol â damcaniaethau cyfoes ynghylch natur y cof.

Themâu sy’n ymwneud â’n hetifeddiaeth ysbrydol a geir yn nau adolygiad R. Watcyn James, y naill ar drysor y gyfrol na wyddai neb am ei bodolaeth, sef Blas ar Gristnogaeth Cymru (Cyhoeddiadau’r Gair, 2018), a luniwyd yn nawdegau’r ganrif o’r blaen gan y diweddar R. Tudur Jones ac a olygwyd gan y diweddar (ysywaeth) Euros Wyn Jones, sy’n ein hatgoffa eto am y colledion o blith ein cymwynaswyr; ac yna astudiaeth werthfawr Noel Gibbard, Y Beibl yn iaith y Bobl: Cyfraniad Cymru i waith Cymdeithas y Beibl mewn Gwledydd Tramor, 1804-1904 (Cyhoeddiadau’r Gair, 2018).

Yng nghanol y rhyddiaith i gyd, da hefyd yw medru cyhoeddi cyfres o englynion gan Goronwy Wyn Owen, y bardd a’r ysgolhaig o Fethesda, a cherdd gyfoes gan Mary Burdett-Jones o Aberystwyth.

Dyma’r trydydd rhifyn i’w argraffu gan Wasg Gomer, Llandysul, a gellir ei archebu ar lein trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am wybodaeth ychwanegol gellwch gysylltu ag Alice Williams (alice@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.

Efallai y byddwch hefyd yn hoffi…