Disgrifiad
A ninnau wedi gorfod ymgyfarwyddo erbyn hyn â’r amrywiolyn Omicron, gobeithio y bydd cynnwys rhifyn Ionawr o’r Traethodydd yn gwrthbwyso’r anawsterau gan godi ein calonnau ar ddechrau 2022. Amrywiaeth sydd gennym eto ar eich cyfer, yn gerddi, ysgrifau yn adolygiadau gan gyfranwyr cyfarwydd a rhai newydd. Y beirdd, fel arfer, sy’n agor y rhifyn hwn, Mary Burdett-Jones ynghyd ag enw newydd, sef Margriet Boleij, ac yna gadwyn o englynion gan Goronwy Wyn Owen. Ymfalchïwn fod Y Traethodydd yn parhau i roi lle teilwng i’n beirdd yn osgytal ag i’n rhyddieithwyr.
Ffrwyth cyfres o seminarau-ar-lein a drefnwyd gan yr Eglwys yng Nghymru i ddathlu ei hetifeddiaeth yw’r ddwy ysgrif gyntaf, y naill gan A. Cynfael Lake yn tafoli o’r newydd Weledigaethau’r Bardd Cwsg gan Ellis Wynne, a’r llall gan Huw Pryce yn trafod Drych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans. Dau o ryddieithwyr pennaf y ddeunawfed ganrif oedd yr awduron hyn, Ellis Wynne yn frodor o Ardudwy, Sir Feirionnydd, a Theophilus yn hanu o Ddyffryn Teifi, er iddo dreulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn Sir Frycheiniog. Pan aeth y Bardd Cwsg ‘ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog’ i un o fynyddoedd Cymru â’i sbienddrych yn ei law, gwelodd bethau rhyfedd, sef gwirciau ei gyd-fforddolion yn y byd, dirgelion angau ac yna rai o drigolion uffern, sef yr anffodusion a gosbwyd yn y Farn. Pa mor effeithiol, neu aneffeithiol, oedd yr awdur yn ei amcan o gymell edifeirwch yn ei ddarllenwyr, creodd olygfeydd llachar o ddiangof a pheth o’r dychan mwyaf deifiol a welwyd yn llên Cymru erioed. Os creadigaeth fwriadus y dychymyg yw’r Gweledigaethau, nid llai dychymyglawn yw’r Drych, er iddo honni bod yn llyfr hanes sobr, yn olrhain tras a champau’r Cymry yn y canrifoedd bore. Nod debyg oedd i’r ddau waith, sef galw’r Cymry yn ôl at eu Crëwr, trwy adferiad buchedd unigolion yn achos yr un, a thrwy ystyried eu natur fel cenedl sanctaidd, a freintiwyd gan Dduw, yn achos y llall; fel y dywed Huw Pryce, ‘iachawdwriaeth, rhagluniaeth a hanes’ yw’r themâu sy’n clymu stori’r Drych ynghyd. Beth bynnag am honiad Theophilus mai llunio llyfr hanes oedd ei amcan, dwy enghraifft o ysgrifennu creadigol athrylithgar oedd y ddau waith hwn, ac er iddynt gael eu llunio dair canrif yn ôl, mae ganddynt bethau crafog ac annisgwyl i’w dweud wrth ffolinebau’r unfed ganrif ar hugain. Darllenwch y ddwy ysgrif hyn, ac yna ewch yn ôl at y Gweledigaethau ac at y Drych a rhyfeddwch o’r newydd at eu gwerth.
Symud i’r ugeinfed ganrif a pheth o’r ganrif hon a wna Ieuan Parri mewn ysgrif ddiddorol ar ‘y portread’ mewn rhyddiaith Gymraeg. T. Gwynn Jones, E. Morgan Humpheys, D. Tecwyn Lloyd, Gwyn Thomas ac Angharad Price yw’r awduron dan sylw, ac astudiaeth loyw o’u dulliau nhw o dynnu portreadau geiriol medrus a chofiadwy o rai o’u cydnabod. Yn ogystal â hon, cawn gan Llion Wigley ail ran ei ymdriniaeth hynod ddarllenadwy o ymwneud rhai o Gymry amlwg yr ugeinfed ganrif â chrefyddau’r Dywrain, ‘Karma Cymraeg: Bwdiaeth, Hindŵaeth a’r Cymry, c. 1923-80’, a’r olaf mewn cyfres gan Enid Morgan o ysgrifau a gyhoeddwyd gyntaf ar wefan Cristnogaeth 21.
Pe na bai hyn yn ddigon o arlwy, ceir adolygiadau gan Dafydd Morgan Lewis ar rai o Gyfrolau Cenedl Dafydd Glyn Jones, Gareth Evans-Jones ar waith diweddar Simon Brooks, Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwareiddiad Cymraeeg, a Rhiannon Ifans ar olygiad newydd Cynfael Lake ar Anterliwt y Ddau Gyfamod gan Elis y Cowper sy’n dod â ni’n dwt yn ôl at lên y ddeunawfed ganrif.
Darllenwch, felly, y rhifyn cyfoethog hwn o’r Traethodydd, ac yn well fyth, danysgrifio i’r hynaf a’r mwyaf sylweddol o gylchgronau’r diwylliant Cymraeg. Wedi’i argraffu gan Wasg Gomer, Llandysul, gellir ei archebu ar lein trwy gyfrwng y wefan www.ytraethodydd.cymru. Dilynwch ni hefyd ar Drydar ac ar Facebook. Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan (d.d.morgan@pcdds.ac.uk), Y Gilfach, Ffordd y Gogledd, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AJ. Am fanylion ynghylch ei archebu, cysylltwch ag Alice Williams (alice@ebcpcw.cymru), Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DD.