Diolch yn fawr!
Rydym eisiau diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd tuag at Apêl Cymorth Cristnogol. Codwyd cyfanswm o £150,000 tuag at Apêl Hadau Gobaith (Honduras a Kenya).
O ganlyniad i hyn, rydym wedi helpu pobl Honduras a Kenya i allu gwneud gwahaniaeth yn eu bywydau ar gyfer eu dyfodol. Mae’r coronafeirws, diffyg dŵr glan, bwyd, trais a gwrthdaro wedi golygu pwysau mawr ar gymunedau. Bydd eich cyfraniad chi yn helpu pobl Honduras a Kenya i gael dyfodol gwell. Llongyfarchiadau a diolch yn fawr i bob un ohonoch chi am bob ymdrech a wnaed i godi arian.
“Dechreuodd fy nealltwriaeth am newid hinsawdd wrth i mi ddechrau gyda’r prosiect yma. Mae gyda ni goed brodorol yma, wedi eu hau gan fy nwylo fy hun. Mewn ychydig o flynyddoedd, fydd y coed yma yn dechrau amddiffyn y ffarm. Byddaf yn parhau i hau’r coed yma, ac ar ddiwedd fy mywyd, mi fyddwn i’n pasio tir gwell i fy mhlant” – Julio
Mae ein partneriaid CASM a OCDIH, yn cyd-weithio â ffermwyr ar draws Honduras er mwyn helpu i oresgyn eu heriau. Un ateb o ganlyniad i hyn oedd i wenyna. Er bod gwenyna fel arfer yn gyfrifoldeb i ddynion yn Honduras, mae Maria a Juanita yn weithgar iawn ac hefyd yn gwenyna, sy’n hybu ac yn annog menywod y wlad i’w dilyn.
“Mae gyda ni y diwylliant machismo yma. Mae’n her i newid y meddylfryd yma. Mae menywod Honduras wedi cael eu dylanwadu gyda’r diwylliant machismo, ac yn benodol yn teimlo’r effaith o newid hinsawdd y wlad” – CASM
“Rydym ni’n helpu nhw i wella eu ffordd o ffermio, i ymdopi gyda newid hinsawdd. Rydym ni’n dod â ffermwyr mewn, i fod yn rhan o’r ateb. Rydym ni’n parchu beth mae pob ffarmwr yn ystyried sy’n bwysig iddyn nhw” -Carlos (CASM)
Bwriad a phrif ffocws yr Apel oedd effaith hirdymor ar newid hinsawdd ac yn benodol, yr heriau y mae’r wlad yn gwynebu megis diffyg dŵr glan, bwyd, llifogydd ayb.
Roedd hi’n amlwg i weld pa mor agos, parchus a sensitif oedd y berthynas rhwng Cymorth Cristnogol Honduras, CASM/OCDIH, â’r bobl a oedd yn gweithio gyda nhw ac yn eu cefnogi.
Fel y gwyddoch, bob pum mlynedd, mae gan EBC Apêl mewn partneriaeth â Chymorth Cristnogol. Eleni mae Apêl ‘Hadau Gobaith’ wedi codi arian ar gyfer problemau Newid Hinsawdd yn Kenya ac Honduras. Roedd yr apêl yn amserol iawn.
Cyrhaeddodd ar gefn blwyddyn anodd i ni yma, ond i’n cymdogion yng ngwledydd tlotaf y byd, mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol fyth.
Fel rhan o’r Apêl hon, mae Evan fel Llywydd, wedi codi arian drwy gerdded 70km. Llwyddodd i fwrw ei darged o ymweld â phob un o’n 14 Henaduriaeth a cherdded 5km ym mhob Henaduriaeth, gan wneud cyfanswm o 70km.
Yn ogystal â gobeithio codi rhywfaint o arian tuag at yr Apêl, llwyddodd i godi ymwybyddiaeth o’r Apêl ar draws y Cyfundeb a chwrdd ag aelodau’r enwad. Ymunodd llawer o aelodau gydag Evan wrth iddyn nhw lwyddo i gerdded 5km gydag ef!
Dymunwn pob bendith i chi fel cynulleidfaoedd. Rydym ni eisiau eich llongyfarch a dweud diolch yn fawr i Evan ac i bawb a wnaeth gyfrannu ac ymuno gyda fe ar ei daith! Edrychwn ymlaen at weld effaith y mae’r cyfraniad yma yn ei gael yn Honduras a Kenya.
Dyma luniau o’r daith:
Galeri
Mae pob llun yn eiddo i Cymorth Cristnogol