DIOGELU PLANT AC OEDOLION BREGUS
Beth yw Diogelu?
Mae diogelu’n golygu amddiffyn pobl fregus rhag niwed a rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Mae’n golygu adnabod arwyddion a nodweddion camdriniaeth ac ymateb mewn modd briodol. Mae’n ataliol yn ogystal ag yn amddiffynnol ac yn cynnwys darparu gweithgareddau diogel a gofal priodol.
Mae diogelu yn rhan hanfodol o arferion a threfn lywodraethu pob sefydliad cyfrifol. Fel eglwysi, gan geisio adlewyrchu cymeriad a gorchmynion Iesu, yr ydym am wneud hyn hyd eithaf ein gallu ac yn gweithredu mewn modd teilwng o fewn ein cymunedau
Datganiad Polisi
Polisi Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw diogelu lles plant, phobl ifanc ac oedolion bregus drwy eu hamddiffyn rhag esgeulustod a niwed corfforol, rhywiol ac emosiynol. Fel eglwysi rydym yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu lles ein haelodau a’r rheini a roddwyd yn ein gofal. Bydd aelodau’r eglwys, staff cyflogedig a gwirfoddolwyr ymddwyn mewn modd sy’n adlewyrchu egwyddorion yr Eglwys Gristnogol. Byddant yn dangos parch i hawliau dynol a dealltwriaeth ohonynt, yn hybu ethos o wrando a sicrhau diogelwch pawb yn arbennig plant ac oedolion bregus.
Bydd yr eglwys yn gofalu am blant, pobl ifanc ac oedolion bregus ac yn eu diogelu drwy ddilyn arferion da mewn perthynas â’r canlynol:
- Ymateb yn briodol i bryderon a honiadau
- Recriwtio gweithwyr a gwirfoddolwyr yn fwy diogel
- Hybu arferion gwaith da
- Hyfforddi a chefnogi eu gweithwyr yn eu swyddogaeth ac mewn amddiffyn grwpiau bregus

Hyfforddiant Diogelu
Mae hyfforddiant diogelu yn hanfodol i bawb sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, ieuenctid ac oedolion bregus a hefyd y rhai sy’n gyfrifol am y gwaith e.e. ymddiriedolwyr a blaenoriaid. Mae’r Panel Diogelu Cydenwadol yn hwyluso hyfforddiant diogelu ar gyfer yr Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mae’r hyfforddiant yn seiliedig ar ein polisïau diogelu a’i nod yw helpu gweithwyr a gwirfoddolwyr i fod yn gyfarwydd â’r canllawiau cyfredol a gwybod beth i’w wneud os oes ganddynt bryderon am unigolyn neu sefyllfa. Ewch i Hyfforddiant (panel.cymru) am fwy o wybodaeth.
I weld yr holl sesiynau sydd ar gael ar hyn o bryd ac i archebu eich lle am ddim dilynwch y ddolen i TicketSource neu cysylltwch â Swyddfa’r Panel os hoffech drefnu sesiwn.
Mae’r Panel yn cynnig tri math wahanol o hyfforddiant diogelu:
HYFFORDDIANT LEFEL 1 ar gyfer gwirfoddolwyr (2 awr)
HYFFORDDIANT LEFEL 2 ar gyfer gweinidogion, arweinwyr a gweithwyr (6awr) HYFFORDDIANT CYDLYNYDD DIOGELU LLEOL ar gyfer rhai sy’n cyfrifol am faterion diogelu yn yr eglwys lleol.



