Beth yw Diogelu?

Mae diogelu yn derm sy’n disgrifio’r swyddogaeth o amddiffyn oedolion a phlant rhag cael eu cam-drin neu’u hesgeuluso ac mae hefyd yn cynnwys mesurau i rwystro pobl fregus rhag cael eu niweidio yn y lle cyntaf.

Mae diogelu yn rhan hanfodol o arferion a threfn lywodraethu pob sefydliad cyfrifol. Fel eglwysi, gan geisio adlewyrchu cymeriad a gorchmynion Iesu, yr ydym am wneud hyn hyd eithaf ein gallu ac yn gweithredu mewn modd teilwng o fewn ein cymunedau.

Datganiad Polisi

Polisi Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw diogelu lles plant, phobl ifanc ac oedolion bregus drwy eu hamddiffyn rhag esgeulustod a niwed corfforol, rhywiol ac emosiynol. Fel eglwysi rydym yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu lles ein haelodau a’r rheini a roddwyd yn ein gofal. Bydd aelodau’r eglwys, staff cyflogedig a gwirfoddolwyr ymddwyn mewn modd sy’n adlewyrchu egwyddorion yr Eglwys Gristnogol. Byddant yn dangos parch i hawliau dynol a dealltwriaeth ohonynt, yn hybu ethos o wrando a sicrhau diogelwch pawb yn arbennig plant ac oedolion bregus.

Bydd yr eglwys yn gofalu am blant, pobl ifanc ac oedolion bregus ac yn eu diogelu drwy ddilyn arferion da mewn perthynas â’r canlynol:

  • Ymateb yn briodol i bryderon a honiadau
  • Recriwtio gweithwyr a gwirfoddolwyr yn fwy diogel
  • Hybu arferion gwaith da
  • Hyfforddi a chefnogi eu gweithwyr yn eu swyddogaeth ac mewn amddiffyn grwpiau bregus

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Panel Diogelu Cydenwadol ar faterion diogelu. Mae swyddog diogelu’r panel yw ein prif swyddog diogelu a dylid cysylltu’n uniongyrchol ynglŷn  â phryderon a materion diogelu.