Yn 2014 diweddarwyd ein polisïau a gweithdrefnau i gynnwys oedolion bregus a newidiadau diweddar yn y ddeddfwriaeth parthed grwpiau bregus a gwiriadau cofnodion troseddol. Mae’r canllawiau a’r cyngor yn y Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus yn sail i bolisi mabwysiedig Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar gyfer gweithio gyda phlant ac oedolion bregus.
Mae’r Llawlyfr yn mynd a ni cam wrth gam trwy:
- Ein Datganiad o Fwriad (Adran 1)
- Recriwtio mwy diogel (gan gynnwys gwiriadau DBS) (Adran 2)
- Gweithio gyda Phlant a Phobl ifanc (Adran 3.1) a sut i ymateb i bryderon ( Adran 3.2)
- Gweithio gydag Oedolion Bregus (Adran 4.1)a sut i ymateb i bryderon (Adran 4.2)
- Gofal Bugeiliol (Adran 5)
- Ffurflenni a gwybodaeth i’ch helpu i weithredu’r polisïau yn Adran 6 a 7
Dylai’r gweithdrefnau a’r canllawiau sydd wedi’u cynnwys yn y ddogfen hon fod ar gael i bob gweithiwr, arweinydd ac aelod o fewn yr eglwys.