Yn 1897 cychwynwyd yr achos yn Nghapel Bethlehem, Abergwyngregyn. Yn 1999 cafwyd y gwasanaeth cyntaf gan yr Eglwys yng Nghymru yn y capel, ac rydym yn cydaddoli yn ngwasanaethau’r Cynheaf a’r Nadolig.
Ar nos Fercher am 5:30yh, cynhelir Clwb Ieuenctid y Capel (CIC), sy’n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i’r bobl ifanc. Rydym yn croesawu’r pentrefwyr a’r gymdeithas leol atom yn ystod y flwyddyn drwy gynnal cyngherddau, darlith a diwrnod o hwyl yn yr haf.
Ceir gwybodaeth bellach ar wefan Henaduriaeth Arfon.