Eglwys gynnes, gweithgar a bywiog.
Cynhelir ysgol Sul y plant yn wythnosol. Mae’r ysgol Sul wedi cofrestru fel rhan o Menter Ieuenctid Cristnogol (MIC) Gorllewin Myrddin, ac yn weithgar iawn gyda’r Fenter. Cynhelir oedfaon plant yn rheolaidd. Trefnir nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn, a chefnogir achosion dyngarol.
Cynhelir oedfa o leiaf ddau brynhawn y mis: ceir y manylion yn y wasg leol, Blwyddlyfr yr Henaduriaeth neu drwy gysylltu â’r gweinidog ((beti-wyn@beti-wyn.orangehome.co.uk).