Eglwys fechan Saesneg ei hiaith ar ochr ddeheuol Parc Beechwood yng Nghasnewydd.
Ar y Sul, mae gwasanaeth am 11yb a the a choffi i ddilyn. Cynhelir ‘Sunday Funday’ i blant a phobl ifanc am 11yb hefyd. Cynhelir astudiaeth Feiblaidd am 6:30yh ar nos Fawrth ac mae’r Chwiorydd yn cyfarfod am 2yh ar ddydd Mercher. Cynhelir bore coffi bob dydd Gwener am 10yb.
Bydd grwp Mam a’i Phlentyn yn cyfarfod yma rhwng 9:30-11:30yb ar ddydd Mawrth. Yn ystod tymor yr ysgol, mae Brownies yn cyfarfod am 6-7:30yh ar nos Lun; Guides a Rangers am 6:30-8yh ar nos Fercher a Rainbows am 5:45-6:45yh ar nos Iau. Ar ddydd Llun, Mawrth, Gwener a Sadwrn, mae’r Vanessa School of Dancing yn defnyddio’r adeilad.
Byddwn hefyd yn cynnal teithiau cerdded achlysurol ar brynhawn Sul a digwyddiadau cymdeithasol amrywiol. Mae croeso cynnes i bawb.