Eglwys Gymraeg ei hiaith yw Bethani. Ers cyfnod gweinidogaeth y Parchedig W. Nantlais Williams, a ddaeth dan ddylanwad pwerus yr Ysbryd Glan ym mis Tachwedd 1904, mae gwirioneddau egengylaidd wedi bod yn sylfaenol i’w bodolaeth, gyda Christ yn ganolog iddi. Adlewyrchir hyn yn y weinidogaeth heddiw.
Cynhelir dwy oedfa ar y Sul am 10:15 a 5:30 (2:30 yn ystod y gaeaf) ac oedfa weddi a dosbarth Beiblaidd am 10yb ar ddydd Mawrth.