Saif Bethania ym Mro Morgannwg, ar gyrion pentref Pendoylan. Rydym yn cynnal gwasanaeth boreol bob Sul am 11yb ac mae ysgol Sul fywiog yn cyfarfod yr un pryd. Mae croeso i bawb i’n gwasanaethau ac i aros am baned a sgwrs yn y festri wedyn.
Am wybodaeth bellach am Bethania, yr eglwysi eraill yn yr Ofalaeth (sef Hope/Penuel a Zoar) a chalendr llawn o ddigwyddiadau, ewch i’n gwefan neu’n tudalen Facebook.