Rydym yn gymysgedd o Gymry cyfeillgar o bob enwad Anghydffurfiol Cymraeg, yn cyfarfod gyda’n gilydd yn agos i Penny Lane a neuaddau preswyl y brifysgol.
Yn ogystal ag oedfa’r Sul, cynhelir cyfarfodydd wythnosol, am 7:30yh ar nos Lun fel arfer, yn cynnwys Astudiaeth Feiblaidd, Cyfarfod Gweddi, Cylch Trafod , Cymdeithas Lenyddol a Chyfarfod Mawl – gweler y rhaglen yn ‘Y Rhwyd’ neu yn ‘Yr Angor’.
Cynhelir Cyfarfodydd Cymdeithas Cymry Lerpwl yng Nghanolfan Bethel ar nos Fawrth.
Mae croeso mawr i chi ddod i un o’r cyfarfodydd uchod – os ydych yn byw yn Lerpwl neu ond yn ymweld â’r ddinas am gyfnod byr.
Os hoffech gysylltu i drefnu ymweliad â rhywun sy’n wael yn un o ysbytai Lerpwl neu fyfyrwyr sy’n astudio yn un o Golegau Lerpwl, ffoniwch: Dr. John Williams 0151 7221092.