Eglwysi

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn un o’r enwadau Cristnogol mwyaf yng Nghymru, gydag oddeutu 20,000 o aelodau a tua 600 o eglwysi. Ein nod yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.

I ddarganfod mwy am leoliad ein capelu cliciwch yma am fap.

Mae gennym ychydig o eglwysi sydd wedi cau sydd ar gael i’w werthu. I weld ein heglwysi sydd ar y farchnad ar hyn o bryd cliciwch yma


Please select the presbytery

Previous page
Gweinidog:
Presbytery:
South West Wales (cy)
Gwefan:
Gwasanaethau:
11:00 & 6:30 (English/Saesneg)
Rhif Cyswllt

Eglwys deuluol fechan yn Burry Green, bymtheg milltir o Ddinas Abertawe.

Rydym yn cynnal digwyddiadau ieuenctid ar y Sul ac yn ystod yr wythnos. Rydym hefyd yn cyfarfod i annog ein gilydd yn y ffydd ar ddydd Mercher, gydag Astudiaeth Feiblaidd a Gweddi am 7yh a Chartref Agored, Beibl Agored am 12:30yh.

Mae’n heglwys yn dilyn y Beibl, yn groesawgar ac yn canolbwyntio ar genhadaeth. Mae’n hanes yn deillio nôl i 1813 pan wnaeth y Foneddiges Diana Barham, oedd yn pryderu am anghenion ysbrydol yr ardal, gyflogi gweinidog ac adeiladu’r eglwys a’r mans.

Mae’n heglwys yn rhan o Ofalaeth Gwyr, sydd hefyd yn cynnwys CheritonOld WallsCrofty a Phenclawdd.

Dewch i ymuno â ni os ydych yn ymweld â Phenrhyn Gwyr!